Back
Entrepreneur 18 oed yn sefydlu busnes ochr yn ochr ag astudio: Straeon ysbrydoledig gan blant a phobl ifanc Caerdydd

9/7/2021

Mae Charlie, entrepreneur ifanc o Gaerdydd, wedi llwyddo i sefydlu ei fusnes gwefru cerbydau ei hun ochr yn ochr â'i astudiaethau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Llanisien.

Deilliodd yr ysbrydoliaeth gychwynnol ar gyfer sefydlu ei fusnes o wylio tiwtorialau ar YouTube yn ystod cyfnod y cyfnod clo yn 2020, a oedd yn rhoi'r sgiliau a'r arbenigedd iddo gynnig faledu ceir am bris isel i ffrindiau agos a theulu.

Ers hynny, mae Hytech Detailers wedi tyfu'n gyflym, ac erbyn hyn mae ganddo nifer o weithwyr sy'n cynnig gwasanaethau glanhau a faledu cwbl symudol ledled Caerdydd ac Abertawe. Ers hynny mae Charlie wedi cwblhau ei astudiaethau, ac mae bellach yn blaenoriaethu ei amser i reoli ei fusnes.

C:\Users\c739646\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Word\charlie with his employee.jpg

Fel llawer o bobl ifanc, roedd Charlie yn amheus ynglŷn â'r llwybrau gyrfa posibl yr oedd am eu dilyn yn ystod ei gyfnod yn y chweched dosbarth, gan nad oedd prifysgol neu brentisiaeth yn apelio ato i ddechrau. Yn y pen draw, sefydlodd fusnes o rywbeth y mae'n wirioneddol fwynhau ei wneud.

Drwy fwrw ati i sefydlu ei fusnes ei hun, mae Charlie yn esbonio ei fod wedi dysgu llawer am agweddau sylfaenol busnes drwy ymarfer byd go iawn, gan gynnwys cyllid, trethi ac yswiriant.

Cyngor Charlie i unrhyw berson ifanc sydd 'ar y ffens' ar hyn o bryd ynglŷn â dilyn ei syniad busnes yw "mynd amdano", gan "nad ydych byth yn mynd i lwyddo oni bai eich bod yn rhoi cynnig arni."

Mae Charlie wedi ymrwymo i Addewid Caerdydd gan ei fod yn awyddus i ysbrydoli pobl ifanc eraill gyda'i stori.https://addewidcaerdydd.co.uk/

Os ydych yn berson ifanc sydd â syniad ar gyfer busnes ond sydd angen rhywfaint o help a chymorth i'w gychwyn, ewch iwefan Syniadau Mawr Cymru, sy'n llawn gwybodaeth i entrepreneuriaid ifanc.

 

  • Gall pobl ifanc hefyd gael gafael ar ystod o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy fynd i un o'r gwefannau canlynol:

 

 https://hwb.gov.wales/zones/keeping-safe-online/support-services/confidential-support/?utm_source=Facebook&utm_medium=social&utm_campaign=Orlo&utm_content=%23PositiveFuturesCDF

 https://www.wjec.co.uk/home/supporting-teachers-and-learners-during-coronavirus/your-wellbeing/?utm_source=Facebook&utm_medium=social&utm_campaign=Orlo&utm_content=%23PositiveFuturesCDF

 https://www.mind.org.uk/information-support/for-children-and-young-people/?utm_source=Facebook&utm_medium=social&utm_campaign=Orlo&utm_content=%23PositiveFuturesCDF

#DyfodolCadarnhaolCDYDD #CDYDDsynDdaiBlant