Back
Cynlluniau ar gyfer felodrom ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd ar y trywydd iawn


8/7/2021
 
Mae felodrom newydd sbon yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd ar y trywydd iawn at 2022/23.

 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn penderfynu ddydd Iau, 15 Gorffennaf, a ddylid bwrw ymlaen â'r cynlluniau ar gyfer y felodrom ar ôl ystyried yr achos busnes amlinellol.

Os caiff ei gymeradwyo bydd y cyngor yn bwrw ymlaen â chaffael, dylunio ac adeiladu'r felodrom a fyddai'n cymryd lle'r cyfleuster presennol ym Maendy, lle mae cynnig i adeiladu Ysgol Uwchradd Cathays newydd wedi rhoi cyfle i adleoli'r felodrom presennol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae gennym gyfle i adfywio'r arlwy yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol a bydd y felodrom newydd yn helpu i greu canolbwynt arall ochr yn ochr â'r Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn, y Pwll Nofio Rhyngwladol ac Arena Iâ Cymru. Rydym yn ymgysylltu â'r grwpiau beicio allweddol a sefydliadau sy'n defnyddio safle ym Maendy ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn. Byddem yn gobeithio cael gwaith dylunio yn barod i'w gyflwyno i gynllunio erbyn mis Medi felly gallai'r gwaith adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2022."

 

Mae'r uwchgynllun ar gyfer yr ardal yn dangos:

  •           Felodrom 333m gyda thŷ clwb a stondin;
  •           Cylched dolen gaeedig 1km, ar gyfer beicio, rhedeg a sgwteri/esgidiau rholio
  •           Siop feiciau fawr
  •           Lle i ddenu atyniadau chwaraeon/hamdden antur newydd
  •           Mannau parcio ychwanegol
  •           Tŵr y Weiren Wib, a
  •           Cyfleoedd bwyd, diod a manwerthu.

Yn ogystal â dod yn gartref i Felodrom newydd y ddinas, gallai'r Pentref cyfan gael ei gylchu gan gylched beicio ffordd, rhedeg a sgwter/rholio 1km o hyd, chwe metr o led. Byddai'r trac hwn yn cael ei wahanu oddi wrth draffig cerddwyr a cherbydau a byddai hefyd am ddim i'w ddefnyddio ar gyfer y cyhoedd ar adegau penodol.

Pan gyhoeddwyd uwchgynllun yr ardal dywedodd Anne Adams-King, Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru: "Mae Beicio Cymru wedi bod yn ynghlwm wrth drafodaethau â Chyngor Caerdydd am adleoli'r felodrom o'r Maendy i'r Pentref Chwaraeon ac rydym yn gyffrous am y cyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig ar gyfer beicio.

"Mae Beicio Cymru wedi bod yn rhan o'r broses ac mae British Cycling hefyd wedi rhoi mewnbwn technegol. At hynny, rydym wedi cael sicrwydd na fydd unrhyw darfu ar ddefnyddio'r cyfleuster wrth drosglwyddo o'r Maendy i'r cyfleuster newydd.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda Thîm Prosiect y Cyngor i helpu i ddatblygu cyfleuster a fydd yn cefnogi twf beicio."

Dywedodd Deian Jones, Cadeirydd Clwb Beicio Maindy Flyers: "Fel clwb sy'n tyfu gyda hanes balch, mae Maindy Flyers yn croesawu ymrwymiad Cyngor Caerdydd i drosglwyddo'n ddi-dor i gyfleuster newydd. Bydd datblygu'r gylched ffordd gaeedig ynghyd â'r felodrom newydd yn darparu amgylchedd diogel i ddatblygu beicio ieuenctid ymhellach, a bydd aelodaeth y clwb sy'n cynnwys dros 150 o feicwyr o dan 18 oed yn ei werthfawrogi."

Dolen i Gwestiynau Cyffredin ar y felodrom ar gael yma:Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd - Cwestiynau Cyffredin (newyddioncaerdydd.co.uk)