08/07/21
Mae'r tîm caffael penigamp yng Nghyngor Caerdydd wedi ymuno â Chyngor Sir Fynwy (CSF) mewn menter gydweithredol a fydd yn gweld awdurdod Caerdydd yn rheoli gweithrediadau a swyddogaethau caffael CSF am y tair blynedd nesaf.
Bydd y cam hwn, a fydd yn dod i rym o 1 Awst 2021, yn galluogi'r ddau awdurdod i gyfuno adnoddau a gwneud y defnydd gorau posibl o arian i helpu i adfer eu heconomïau lleol.
Mae gan y ddau gyngor uchelgais i droi'r cydweithio hwn yn gontract treigl lle byddai'r awdurdodau'n gweithio gyda'i gilydd i gyflawni a darparu eu gwasanaethau caffael. Byddai hyn yn cael ei gyflawni gan Gyngor Caerdydd ar ran y ddau gyngor.
Mae'r cytundeb yn galluogi CSF i elwa o dîm mwy, gan gynyddu o ddau i bump, i gynnwys tri dechreuwr llawn amser newydd, a reolir gan wasanaeth caffael penigamp a hynod uchel ei barch Cyngor Caerdydd.
Yn rhan o'r trefniant bydd Cyngor Caerdydd hefyd yn gwneud y canlynol:
Gobeithir hefyd y bydd y ddirprwyaeth yn rhoi cyfle i rannu arfer da ehangach gan ganolbwyntio'n fwy ar gost oes gyfan a bydd yn helpu CSF i reoli ei alw caffael yn well drwy sefydlu a monitro piblinell gwaith/contract.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng Chris Weaver: "Mae hon yn bartneriaeth bwysig i Gaerdydd ac i Sir Fynwy. Rydym am arwain y ffordd o ran gweithredu trefniadau caffael cydweithredol mawr ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae hwn yn gam tuag at y nod hwnnw. Gall helpu'r ddau awdurdod i ddefnyddio eu harian i sicrhau'r bargeinion gorau ac i hybu gwaith adfer lleol wrth i ni ddod allan o'r cyfnod cloi.
"Yng Nghaerdydd rydym wedi datblygu tîm caffael penigamp sy'n uchel ei barch ar draws y sector cyhoeddus ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â'n sgiliau, ein gwybodaeth a'n harbenigedd i Sir Fynwy i'w helpu i gyflawni ei holl uchelgeisiau. Bydd y fenter hon hefyd yn arwain at recriwtio tri swyddog caffael newydd i ategu staff presennol Caerdydd a Sir Fynwy - buddsoddiad i'w groesawu mewn meithrin gallu caffael o fewn Llywodraeth Leol yng Nghymru."
Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, Aelod Cabinet CSF dros Adnoddau: "Mae ymrwymo i'r cytundeb pwysig hwn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn caffael mewn ffordd effeithlon, gan ddefnyddio arbenigedd a gwybodaeth y tîm uchel ei barch hwn, tra hefyd yn deall yr anghenion yn Sir Fynwy. Rwy'n falch o weld ein dau sefydliad blaengar yn dod at ei gilydd i gyfuno adnoddau ac i edrych ar ffyrdd o gynnig y gorau i'n cymunedau."