Back
ENFYS ENFAWR WEDI'I GWNEUD O GANIAU WEDI'U HAILGYLCHU YN YMDDANGOS YNG NGHANOL DINAS CAERDYDD

ENFYS ENFAWR WEDI'I GWNEUD O GANIAU WEDI'U HAILGYLCHU YN YMDDANGOS YNG NGHANOL DINAS CAERDYDD

 

02/07/2021

 

Ffoto: Adam Hughes

 

Mae enfys enfawr wedi ymddangos dros nos ar Yr Aes yng nghanol dinas Caerdydd.

 

Mae'r enfys, sydd wedi'i wneud o dros 2,500 o ganiau diodydd wedi'u hailgylchu gan fesur pedwar metr o uchder a saith metr o led, wedi'i gosod gan Every Can Counts, rhaglen ddielw, mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, i dynnu sylw at bwysigrwydd ailgylchu caniau diodydd gwag.

 

Cymerodd fwy na phum awr i bedwar o bobl ei hadeiladu, a bydd yn parhau yn ei lle tan nos Sul. Bydd tîm o genhadon ailgylchu Every Can Counts yn crwydro o gwmpas canol dinas Caerdydd a Pharc Bute dros y penwythnos i ledaenu'r neges ailgylchu wrth gasglu caniau.

 

Mae'r cerflun enfys yn rhan o ymgyrch gyda'r Cyngor sydd â'r nod o annog trigolion Caerdydd i gael gwared ar ganiau diodydd gwag yn gyfrifol wrth i gyfyngiadau Covid gael eu llacio.

 

Yn nhri mis cyntaf eleni, roedd cyfanswm yr ailgylchu domestig yng Nghaerdydd wedi cynyddu 23%* ar 2020, gan fod cyfyngiadau'r cyfnod cloi wedi'i gwneud yn haws i bobl ailgylchu gartref. Fodd bynnag, yn yr un cyfnod, casglwyd 81 tunnell o sbwriel a broseswyd yn nepo'r Cyngor o fannau cyhoeddus y ddinas - cynnydd enfawr o 55%* ar y flwyddyn flaenorol - gyda mwy o bobl yn mwynhau amser yn yr awyr agored ac yn cymdeithasu â theulu a ffrindiau ledled y ddinas.

 

Mae ymchwil Every Can Counts ei hun** yn awgrymu bod mwy na dwy ran o dair (67%) o drigolion Caerdydd yn dweud eu bod wedi sylwi ar fwy o sbwriel dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl hyn yn credu bod hyn o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig.

 

Mae mwy na thraean (36%) o'r rheiny a holwyd yn dweud eu bod yn mynd â deunydd pacio adref i'w ailgylchu os nad oes cyfleusterau ailgylchu mewn mannau cyhoeddus, gyda dros hanner (51%) ohonynt yn honni y byddent yn ailgylchu'n fwy tra'u bod allan pe bai mwy o finiau ailgylchu.

 

Yn ôl Every Can Counts, mae bron i 350,000 o ganiau diodydd yn cael eu rhoi mewn biniau gwastraff cyffredinol bob blwyddyn yng Nghaerdydd. Mae'n hawdd iawn ailgylchu alwminiwm a gall ailgylchu dim ond un can arbed digon o ynni i bweru teledu am dair awr***. Byddai ailgylchu'r 350,000 o ganiau hyn yn arbed yr un swm o nwyon tŷ gwydr ag y byddai tynnu mwy na 900 o geir oddi ar ffyrdd Caerdydd am wythnos yn ei arbed.

 

Dywedodd Chris Latham-Warde, Rheolwr Rhaglen Every Can Counts:"Rydym yn llawn cyffro i ddadorchuddio ein henfys fywiog yng nghanol dinas Caerdydd i atgoffa pobl am bwysigrwydd ailgylchu wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ar draws y wlad.

 

"Dim ond un peth bach y gall pob un ohonom ei wneud er budd yr amgylchedd yw ailgylchu can diod gwag. Gallai'r holl ganiau a gesglir yng Nghaerdydd dros y penwythnos gael eu hailgylchu a'u rhoi yn ôl ar silffoedd siopau mewn dim ond 60 diwrnod - ac yna eu hailgylchu'n ddiddiwedd dro ar ôl tro.

 

"Y llynedd, cafodd pedwar o bob pum can diod a werthwyd yn y DU eu hailgylchu**** a helpodd y flwyddyn rydym wedi'i dreulio gartref oherwydd y cyfnod cloi gyda mynediad haws at finiau ailgylchu ni i gyflawni hyn. Rydym nawr am barhau i gyflawni yn y modd hwn wrth i bethau ddychwelyd i normal, fel y gallwn wireddu ein nod o ailgylchu pob diod."

 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd:"Rydym wrth ein bodd mai Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i groesawu'r gosodiad celf gwych hwn.

 

"Mae enfysau wedi dod yn arbennig o symbolaidd yn ddiweddar, felly mae'n siŵr o ddal sylw ein trigolion a'n hymwelwyr yng nghanol y ddinas.

 

"Rydym am i bawb ddefnyddio'r biniau sbwriel a ddarperir pan fyddan nhw allan yng Nghaerdydd. Mae gennym 240 o finiau sbwriel yng nghanol y ddinas ac fel arfer mae tua 134,000 o bobl yn ymweld â chanol y ddinas bob dydd*****. Byddem yn eu hannog i fynd â'u sbwriel gyda nhw os yw'r biniau'n llawn.

 

"Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o bobl eisiau dinas lân ac yn cael gwared ar eu sbwriel yn gywir. Mae ein hymgyrch Carwch Eich Cartref gyda Cadwch Gaerdydd yn Daclus wedi mynd o nerth i nerth gyda mwy o bobl yn cofrestru i fod yn Ymgyrchwyr Sbwriel ac yn helpu i gadw eu cymunedau lleol yn lân, rydym yn ddiolchgar i bob gwirfoddolwr.

 

"Rwy'n edrych ymlaen at weld pobl yn rhannu eu lluniau o'r cerflun enfys trawiadol hwn wrth gofio'r neges y tu ôl iddo ac ailgylchu eu caniau diodydd a gwastraff arall."

 

Mae'r enfys yn gwneud cefndir delfrydol ar gyfer lluniau, ac mae Every Can Counts yn cynnal cystadleuaeth lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cynnig y cyfle i ennill taleb siopa £200. I gystadlu, tynnwch lun o'r enfys a'i lanlwytho i'r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #EveryCanCounts a thagio @EveryCanCountsUK (Instagram/Facebook) neu @EveryCanCounts (Twitter).

 

Mae Every Can Counts yn bartneriaeth unigryw a ffurfiwyd rhwng gweithgynhyrchwyr caniau diodydd, cwmnïau llenwi caniau diodydd a'r diwydiant ailgylchu ehangach, gyda'r nod o gyflawni cyfradd ailgylchu o 100% ar gyfer caniau diodydd.Igael mwy o wybodaeth am Every Can Counts, ewch iwww.everycancounts.co.uk.

 

DIWEDD

 

* Data o Gyngor Dinas Caerdydd, Ionawr - Mawrth 2021 o gymharu â 2020

** Ymchwil OnePoll i drigolion Caerdydd a gynhaliwyd yr wythnos yn dechrau 21 Mehefin 2021

***Novelis Recycling,https://www.novelisrecycling.co.uk/corporate-social-responsibility/why-recycle/

****Cyfrifiad Alupro (Sefydliad Ailgylchu Deunydd Pacio Alwminiwm) yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd,https://alupro.org.uk/uk-aluminium-beverage-can-recycling-hits-record-breaking-82-in-2020/

******cyn Covid. Ffigur cyfartalog o fis Mehefin 2019

 

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:

 

Robyn Upton

(0)161 235 0344

(0)7716 487 819

everycancounts@citypress.co.uk

robyn.upton@citypress.co.uk

 

Gwybodaeth am Every Can Counts

 

Mae Every Can Counts yn rhaglen gyfathrebu ddielw sy'n gweithio i ysbrydoli, annog a grymuso pobl i ailgylchu eu caniau diodydd gwag. Ariennir y rhaglen drwy bartneriaeth rhwng gweithgynhyrchwyr caniau diodydd Ewropeaidd a'r DU, y diwydiant ailgylchu alwminiwm a brandiau diodydd. Gweledigaeth y rhaglen yw cyflawni cyfradd ailgylchu o 100% ar gyfer caniau diodydd ledled Ewrop. Mae Every Can Counts wedi partneru ag ystod eang o fusnesau, sefydliadau a digwyddiadau er mwyn cyflawni'r nod hwn, gan roi cyngor a chymorth gan gynnwys deunyddiau cyfathrebu am ddim i helpu i ymgysylltu defnyddwyr â manteision ailgylchu caniau diodydd. 

 

Mae'r rhaglen, a sefydlwyd yn y DU yn 2009, bellach yn gweithredu mewn 19 o wledydd ledled Ewrop.

 

I gael mwy o wybodaeth, ewch ihttps://everycancounts.co.uk/neu dilynwch Every Can Counts ar Facebook (http://www.facebook.com/everycancountsuk), Instagram (www.instagram.com/everycancountsuk) a Twitter (www.twitter.com/everycancounts).