Back
Plant Caerdydd yn helpu i ddatblygu gwasanaeth newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro


24/6/2021

Mae plant ysgol o Gaerdydd wedi chwarae rhan bwysig yn lansiad datblygiad gwasanaeth newydd ym Mhractis Mynediad Iechyd Caerdydd (CHAP).

Drwy weithio mewn partneriaeth â Caerdydd sy'n Dda i Blant a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gwahoddwyd pobl ifanc o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair yn Butetown i ddylunio logo ar gyfer ehangu'r gwasanaethau a ddarperir gan CHAP. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd y gwasanaeth CHAP yn ehangu i ddarparu mynediad i asesiadau iechyd a sgrinio iechyd y cyhoedd i grŵp ehangach o unigolion sy'n agored i niwed neu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad i ofal iechyd. Bydd hyn yn cynnwys y rhai sy'n ddigartref neu sy'n chwilio am loches yn y ddinas. 

Roedd briff y gystadleuaeth yn gofyn i ymgeiswyrgynrychioli pobl o bob cwr o'r byd a allai ddefnyddio'r gwasanaetha hefyd i adlewyrchu'r thema bod Caerdydd yn ddinas groesawgar lle gall pobl blannu gwreiddiau a thyfu.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Child Friendly City\Healthboard Comp\Winners with Dr Ayla Cosh.jpg

Enillwyr gyda Chyfarwyddwr Clinigol Dr Ayla Cosh ym Mhractis Mynediad Iechyd Caerdydd

Dewiswyd tri enillydd, gydag elfennau o bob dyluniad i'w hymgorffori yn y logo terfynol; dewiswyd dyluniad blodyn haul Muna am eigynrychiolaeth o gryfder a hir oes, dewiswyd dyluniad glôb Malak i gynrychioli defnyddwyr gwasanaeth o bedwar ban byd a dewiswyd blodyn haul â dail enfys Mohammed i adlewyrchu amrywiaeth defnyddwyr gwasanaeth, y mae croeso i bob un ohonynt.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Child Friendly City\Healthboard Comp\judging panel 1.JPG

Disgyblion o Ysgol Uwchradd Willows oedd y panel beirniadu a bydd Muna, Malak a Mohammed nawr yn gweithio gyda chwmni Dylunio Graffeg 'Turnip Starfish' i ddatblygu eu dyluniadau a dod â nhw'n fyw.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae uchelgais Caerdydd i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant yn magu momentwm ac mae ein gweledigaeth y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael ei glywed yn cael ei gwireddu nawr yn fwy nag erioed.

"Mae gweithio gyda'n partneriaid ledled y ddinas ar brosiectau fel hyn yn dangos bod pawb yn rhoi hawliau plant yn gyntaf, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn chwarae rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ar draws y brifddinas. 

"Mae'r gwasanaeth gofal iechyd newydd yn hanfodol, gan helpu a chefnogi llawer o deuluoedd Caerdydd, felly rydw i wrth fy modd ein bod yn ymgysylltu â phlant a'u bod yn cyfrannu yn y ffordd greadigol hon."

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Len Richards: "Mae'n gyfnod cyffrous i'r Bwrdd Iechyd gan ein bod yn ehangu'r gwasanaethau a ddarperir gan CHAP ac yn cynnig y gwasanaeth i fwy o'n grwpiau bregus yn y gymuned. Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn darparu ar gyfer grwpiau mwyaf agored i niwed Caerdydd gan gynnwys ceiswyr lloches a chleifion hafan ddiogel ond bydd yn lansio gydag enw newydd a brand newydd diolch i ddisgyblion Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair sydd wedi helpu gyda dyluniad y logo.

"Hoffem ddiolch i'n partneriaid a disgyblion yr ysgol am ein helpu i gyrraedd y cam hwn. Byddwn yn rhoi gwybod i bobl pan fydd y gwasanaeth newydd yn lansio - daliwch ati i ddilyn gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf."

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair, NickiPrichard:

 "Fel ysgol rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar i blant o bob cwr o'r byd. Mae ein cymuned amrywiol yn gynrychioliadol o'r hyn y mae Caerdydd yn ceisio bod - amgylchedd sy'n dda i blant sy'n rhoi dyngarwch, caredigrwydd a thosturi wrth ei galon. 

 

"Rydym wedi bod wrth ein bodd yn cymryd rhan mewn prosiect sy'n annog ein disgyblion i fyfyrio ar y gymuned gynhwysol o'u cwmpas a'i dathlu mewn ffordd mor greadigol, gan wybod pa mor falch y byddant yn teimlo pan fyddant yn gweld eu dyluniad yn cael ei ddefnyddio i gynrychioli'r gwasanaeth newydd pwysig hwn."

Mae gweledigaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd yn rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas.

Yn ddiweddar, cydnabu Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF y DU) y rôl arloesol y mae Cyngor Caerdydd wedi'i chwarae fel un o'r rhai cyntaf i ymuno â'i raglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant a bod cynnydd da wedi'i wneud o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin.

O ganlyniad, mae UNICEF y DU wedi argymell bod Caerdydd yn gwneud cais am gydnabyddiaeth fel Dinas sy'n Dda i Blant yn hwyrach eleni.

Mae'r tîm CHAP yn gweithio'n agos gyda phartneriaid mewnol gan gynnwys y tîm Clefydau Heintus a Thwbercwlosis, yr adran Iechyd Rhywiol, y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol a'r Gwasanaeth Straen Trawmatig. Mae gan CHAP gysylltiadau agos hefyd â Chyngor Caerdydd/Tai ac asiantaethau trydydd sector lleol a chenedlaethol sy'n cynnig cymorth hanfodol i'r defnyddwyr gwasanaeth. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth CHAP, ewch i wefan y Bwrdd Iechydhttps://bipcaf.gig.cymru/