Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: gwasanaeth penwythnos galw heibio dos cyntaf brechlyn COVID-19 yn y Bae; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg.
Gwasanaeth Penwythnos Galw Heibio Dos Cyntaf Brechlyn COVID-19 yn y Bae
Cynhelir clinigau galw heibio dos cyntaf bob penwythnos yng Nghanolfan Frechu Torfol y Bae (hen safle Toys R Us).
Dewch draw ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul unrhyw bryd rhwng 8am a 4pm, os:
Dewch â phrawf adnabod gyda chi, ynghyd â phrawf o gyfeiriad cartref neu fan gwaith yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (07 Mehefin - 13 Mehefin)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
17 Mehefin 2021, 09:00
Achosion: 71
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 19.4 (Cymru: 23.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,442
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 938.1
Cyfran bositif: 2.1% (Cymru: 2.4% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 18 Mehefin
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 555,216 (Dos 1: 348,425 Dos 2: 206,733)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser