11/06/21 - Dwy Lôn ar Stryd y Castell i ailagor i draffig cyffredinol
Disgwylir y bydd Stryd y Castell Caerdydd yn ailagor i draffig cyffredinol yn yr hydref cyn gynted ag y bydd gwaith ffordd, marciau ffordd ac arwyddion wedi'u rhoi ar waith i'w gwneud yn ddiogel.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26779.html
11/06/21 - Caerdydd yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau adfer COVID y ddinas
Mae darparu cysylltiad 'Highline' tebyg i Efrog Newydd, yn cysylltu canol dinas Caerdydd â'r Bae, adfer mawredd Fictoraidd Marchnad Caerdydd a chreu Parth Ieuenctid newydd yn Nhrelái yn dri chynllun yn unig o blith y prosiectau y mae Cyngor Caerdydd yn eu datblygu'n rhan o raglen 'Codi'r Gwastad' Llywodraeth y DU.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26777.html
11/06/21 - Datgelu cynlluniau Coridor Trafnidiaeth y Gogledd-orllewin
Mae cynlluniau newydd sydd wedi eu creu i helpu i gysylltu a gwella opsiynau teithio i breswylwyr a chymudwyr i Gaerdydd wedi cael eu datgelu.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26775.html
11/06/21 - Datgelu Cynllun Amddiffyn yr Arfordir gwerth £25m ar gyfer Caerdydd
Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu amddiffynfa rhag llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd i amddiffyn de-ddwyrain Caerdydd rhag storm unwaith-mewn-200-mlynedd a rhag lefelau môr uwch yn sgil newid yn yr hinsawdd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26773.html
11/06/21 - Ad-drefnu cynradd wedi'i ohirio i ddatblygu atebion parhaol
Dylid oedi cynlluniau dros dro i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd er mwyn gallu datblygu atebion mwy cynaliadwy.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26771.html
11/06/21 - Cynigion newydd ar gyfer datblygu Ysgol Uwchradd Cathays
Bydd adroddiad sy'n manylu ar ymatebion o ymgynghoriad ar gynigion cychwynnol ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays newydd yn cael ei rannu â Chabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 17 Mehefin.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26769.html
11/06/21 - Uchafbwyntiau'r Gymraeg a amlinellir yn yr adroddiad blynyddol
Ymhlith rhai o uchafbwyntiau adroddiad blynyddol Safonau'r Gymraeg y Cyngor ar gyfer 2020/21 mae Strategaeth Sgiliau Iaith newydd, cynnydd yn nifer y swyddogion â sgiliau Cymraeg a'r ganran uchaf erioed o blant ysgol yn cael eu derbyn i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26767.html
10/06/21 - Cymorth i ofalwyr ifanc gyda chynllun cerdyn adnabod newydd
Lansiwyd heddiw (Dydd Iau, Mehefin 10), yn ystod Wythnos Gofalwyr, gynllun newydd i alluogi gofalwyr ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen arnynt.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26759.html
09/06/21 - Dechrau'r gwaith o ddod o hyd i brentisiaid parciau nesaf Caerdydd (chwech) a newid bywydau
Dychmygwch mai Parc Bute yw eich swyddfa. Neu dreulio eich dyddiau ym Mharc Cefn Onn, Parc y Rhath, neu unrhyw un o'r cannoedd o barciau a mannau gwyrdd o amgylch Caerdydd. Efallai ei fod yn swnio fel breuddwyd, ond i chwech o bobl gallai ddod yn realiti cyn bo hir, oherwydd mae Cyngor Caerdydd wrthi'n chwilio am chwe phrentis i ymuno â'n gwasanaeth parciau, ac yng ngeiriau ein cyn-brentis (ac aelod parhaol o'r tîm erbyn hyn) Josh, gallai hyn "newid eich bywyd".
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26749.html
09/06/21 - Cynlluniau gan y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i hybu cyfleoedd cyflogaeth
Mae Tasglu Cydraddoldeb Hiliol a sefydlwyd i ddelio ag anghydraddoldeb hiliol ledled Caerdydd wedi rhyddhau ei set gyntaf o argymhellion.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26745.html
08/06/21 - Datganiad ar ardal cefnogwyr yr Ewros
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Ers i'r Prif Weinidog gyhoeddi ddydd Gwener diwethaf bod Cymru yn symud i Haen Un o'r cyfyngiadau symud, mae'r Cyngor wedi bod yn edrych ary posibilrwydd o gynnal ardaloedd cefnogwyr ar gyfer gemau Cymru yn yr Ewros.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26738.html
08/06/21 - Diweddariad Cyngor Caerdydd: 8 Mehefin
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26736.html
08/06/21 - Gweddnewidiad Maelfa wedi'i gwblhau
Mae trawsnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd i gyfleusterau siopa a chymunedol Llanedern wedi'i gwblhau.
Darllenwch fwy yma: