11/06/21
Disgwylir y bydd Stryd y Castell Caerdydd yn ailagor i draffig cyffredinol yn yr hydref cyn gynted ag y bydd gwaith ffordd, marciau ffordd ac arwyddion wedi'u rhoi ar waith i'w gwneud yn ddiogel.
Bydd argymhelliad i ailagor y stryd, a gaewyd i helpu busnesau bwyd a diod i barhau'n hyfyw yn ystod y cyfnod pan oedd y pandemig ar ei waethaf y llynedd, yn cael ei ddwyn gerbron Cabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod nesaf ar ddydd Iau, 17 Mehefin. Mae'n dilyn ymgynghoriad oedd yn cynnig dau opsiwn i'r cyhoedd:
1. Caniatáu i draffig cyffredinol ddefnyddio'r stryd;
2. Caniatáu i fysys, tacsis a beicwyr yn unig i ddefnyddio'r stryd.
Cymerodd dros 6,227 o bobl ran yn yr ymgynghoriad gyda 53.8% yn credu bod mantais sylweddol i ailagor y ffordd i draffig cyffredinol, a 33.8% yn credu ei bod yn fantais sylweddol i gadw traffig cyffredinol oddi ar y ffordd.
Er mwyn bodloni gofyniad cyfreithiol rwymol i ostwng llygredd ar y stryd i derfynau derbyniol, bydd Stryd y Castell yn cael ei chyfyngu i un lôn o draffig i'r naill gyfeiriad a'r llall i bob cerbyd. Bydd y llwybr beicio dwyffordd a'r lôn fysiau bwrpasol tua'r gorllewin yn parhau er mwyn sicrhau na eir yn uwch na'r terfynau llygredd cyfreithiol. Mae hyn yn cynrychioli cynllun gwreiddiol y Cyngor ar gyfer y ffordd fel y'i nodwyd yn y Strategaeth Drafnidiaeth a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020.
Wedi i'r ffordd gael ei hagor i draffig cyffredinol, bydd rhagor o waith modelu llifoedd traffig yn digwydd. Bydd y modelu hwn yn caniatáu i'r cyngor wneud asesiad o lygredd aer yng nghanol y ddinas wrth i gymudwyr ddychwelyd i'r gwaith ac wrth i nifer yr ymwelwyr ddychwelyd i'r lefelau arferol ar ôl y pandemig. Bydd effaith agor y llwybr i geir preifat, ar Stryd y Castell a'r ardaloedd cyfagos, hefyd yn cael ei monitro. Bydd y data newydd hwn ar lifoedd traffig ar ôl y pandemig wedyn yn cael ei ddefnyddio i lywio cynlluniau i leihau llygredd aer a thagfeydd yn y ddinas ymhellach.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae tagfeydd a lefelau ansawdd aer yn parhau i fod yn bryder mawr i breswylwyr. Er bod ansawdd aer yn gwella yn y ddinas yn gyffredinol, rydym yn rhannu pryderon y gall tagfeydd traffig lleol achosi problemau mewn ardaloedd preswyl canolog. Mae hyn yn rhywbeth rydym am gael mwy o ddata amdano yn enwedig wrth i bethau ddechrau dychwelyd i'r drefn arferol ac wrth i draffig gynyddu.
"Bydd yr oedi wrth weithredu cynllun mwy parhaol yn ein galluogi i gynnal asesiadau traffig pellach. Bydd hyn yn rhoi'r data diweddaraf ac amser real i ni ar lifoedd traffig ar ôl y pandemig, wrth i gymudwyr ac ymwelwyr ddychwelyd i'r ddinas. Mae angen i ni ddeall a fydd y newid i weithio gartref a'r cynnydd yn nifer y teithiau llesol yr ydym wedi'i weld yn cael effaith hirdymor ar lif traffig.
"Mae llawer ohonom wedi dod i arfer â llai o draffig yn ystod y pandemig ac wedi arfer â'r aer glanach a'r buddion a ddaw i iechyd yn sgil hynny. Dydw i ddim yn meddwl bod yr un ohonom am ddychwelyd i ddinas o dagfeydd traffig, a dyna pam, rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn llwybrau cerdded a beicio ac mewn opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus glanach, cyflymach a hygyrch. Rydym hefyd wedi ymrwymo i'n cynlluniau ar gyfer Metro De Cymru ac yn edrych ar ffyrdd o ariannu llwybrau a gorsafoedd newydd, gan gynnwys parhau â'n gwaith dichonoldeb o ran codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd."