Back
Ad-drefnu cynradd wedi'i ohirio i ddatblygu atebion parhaol


11/6/2021

Dylid oedi cynlluniau dros dro i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd er mwyn gallu datblygu atebion mwy cynaliadwy.

Roedd y Cyngor wedi datblygu cynigion gyda'r nod o sicrhau'r cydbwysedd cywir o ddarpariaeth gynradd cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg i ateb y galw yn yr ardal yn y dyfodol ac i gefnogi ei ymrwymiad i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru a nodir yn 'Cymraeg 2050'.

Ond yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni ar y cynnig dros dro i gynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan i 1.5DM (Dosbarth Mynediad) a lleihau gallu Ysgol Gynradd Allensbank i 1DM erbyn Medi 2022, ac mewn ymateb i alwadau am gynllun mwy tymor hwy ar gyfer lleoedd mewn ysgolion yn yr ardal, bydd y Cabinet nawr yn ystyried argymhelliad i beidio â bwrw ymlaen â'r cynigion hyn yn ei gyfarfod ddydd Iau, 17 Mehefin.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Allensbank\IMG_2202 CROPPED.jpg

 

Dylid datblygu cynigion diwygiedig sy'n darparu ateb parhaol, yn unol â nodau strategol hirdymor Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Caerdydd 2021-2030, er mwyn sicrhau cydbwysedd priodol o leoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg i wasanaethu'r ardal.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Ysgol Myned Bychan\IMG_2200.JPG

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Buom yn ymgynghori'n eang ar y cynigion hyn, a oedd yn ceisio cefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg a chael y cydbwysedd cywir i ateb y galw am leoedd cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg yn yr hirdymor. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran am helpu i lunio ffordd ymlaen.

"Er y byddai'r cynigion hyn yn wir yn sicrhau cynnydd mewn lleoedd cyfrwng Cymraeg yn y byrdymor, rydym yn cydnabod yr ystod o bryderon a gyflwynwyd yn ystod yr ymarferion ymgynghori ac ymgysylltu, yn enwedig yr angen i gael gweledigaeth tymor hwy ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

"Rydym am gael hyn yn iawn i'r ysgolion a'u cymunedau yn yr ardaloedd hyn felly mae'n gwneud synnwyr i beidio â symud ymlaen â'r cynlluniau hyn ac ystyried opsiynau newydd, yng ngoleuni ymatebion i'n hymgynghoriad ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2021-2030, a gynhelir yn ddiweddarach eleni.

"Dylai unrhyw gynigion diwygiedig geisio ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy'n gwasanaethu dalgylch presennol Ysgol Mynydd Bychan, lleihau lleoedd gwag cyfrwng Saesneg i wasanaethu dalgylchoedd cyfunol Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Albany ac Ysgol Gynradd Gladstone a galluogi buddsoddi mewn adeiladau ysgol i wella'r amgylchedd dysgu i bawb."

Mae dyheadau'r Cyngor ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd yn rhan o'i weledigaeth ar gyfer Prifddinas wirioneddol ddwyieithog, ac mae'n cyd-fynd ag uchelgais 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru sy'nceisio'r gwireddu'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.Mae ‘Cymraeg 2050' yn gosod targedau cenedlaethol ar gyfer addysgu 40% o ddysgwyr mewn ysgolion Cymraeg, a 30% arall o ddysgwyr i gael eu haddysgu mewn ysgolion Saesneg fel eu bod yn dod yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg presennol Caerdydd a'r cynllun newydd ar gyfer 2021-2030 yn sbardunau allweddol yn yr uchelgeisiau hyn. Bydd y cynllun newydd yn nodi'r camau nesaf o ran tyfu addysg cyfrwng Cymraeg yn y ddinas a disgwylir iddo fod ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn yr Hydref cyn ei gyflwyno i'w gymeradwyo i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2022.