Back
Dechrau’r gwaith o ddod o hyd i brentisiaid parciau nesaf Caerdydd (chwech) a newid bywydau
Dychmygwch mai Parc Bute yw eich swyddfa. Neu dreulio eich dyddiau ym Mharc Cefn Onn, Parc y Rhath, neu unrhyw un o'r cannoedd o barciau a mannau gwyrdd o amgylch Caerdydd.  Efallai ei fod yn swnio fel breuddwyd, ond i chwech o bobl gallai ddod yn realiti cyn bo hir, oherwydd mae Cyngor Caerdydd wrthi’n chwilio am chwe phrentis i ymuno â'n gwasanaeth parciau, ac yng ngeiriau ein cyn-brentis (ac aelod parhaol o'r tîm erbyn hyn) Josh, gallai hyn "newid eich bywyd".

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Ers 2004, mae un ar bymtheg o bobl wedi graddio o brentisiaethau yn ein parciau ac wedi mynd ymlaen i ddod o hyd i swyddi parhaol yn gweithio i Gaerdydd yn rhai o fannau gwyrdd gwych y ddinas."

Un o'r bobl hynny oedd Joshua Thatcher, sydd bellach yn dyfwr coed yn nhîm y parciau, sy’n cyfaddef ei hun ei fod, "braidd yn drafferthus" yn yr ysgol.

Ar ôl cael profiad gwaith cynnar gydag adran y parciau yn 15 oed, roedd Josh yn gobeithio dilyn gyrfa mewn garddwriaeth, ond aeth sawl blwyddyn heibio cyn iddo wneud cais am brentisiaeth.

"Os ydych chi'n dod o gefndir lle rydych chi wastad wedi rhoi eich hun i lawr ychydig ac wedi meddwl, wel dydw i ddim wir yn mynd i fod yn llwyddiannus, ewch amdani, dyna beth fyddwn i'n ei ddweud, taflwch eich hun i mewn, ac mae’r boddhad a gewch chi o wneud hynny, bydd yn eich rhyfeddu.

"Does gennych chi ddim byd i'w golli a phopeth i'w ennill, a bydd y profiadau a gewch o’i wneud, yn newid bywydau."

Mae'r prentisiaethau pedair blynedd sydd ar gael ar hyn o bryd yn cwmpasu nifer o wahanol feysydd yn y parciau gan gynnwys: cynnal a chadw tiroedd, coedyddiaeth, a gwasanaethau ceidwaid parciau trefol a chymunedol.

Mae pob cyfle yn cynnwys y cyfle i ennill cymwysterau ffurfiol, dysgu 'yn y swydd' gan y tîm profiadol a chyfeillgar, ac ennill y cyflog byw go iawn.

Dywedodd y Cynghorydd Bradbury: "Mae prentisiaethau'n cynnig cymaint i bobl o bob cefndir, pobl ifanc nad oeddent mewn cyflogaeth nac addysg o'r blaen, pobl sydd eisiau i newid eu gyrfa - yr unig gymhwyster gwirioneddol sydd ei angen yw awydd i ddysgu, a diddordeb a brwdfrydedd gwirioneddol am y gwaith y mae'r tîm yn ei wneud i wella a chynnal parciau Caerdydd."

I gael rhagor o wybodaeth am y prentisiaethau hyn, ewch i: www.caerdydd.gov.uk/swyddi