Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: Cynlluniau gan y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i hybu cyfleoedd cyflogaeth; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; gweddnewidiad Maelfa wedi'i gwblhau; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Cynlluniau gan y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i hybu cyfleoedd cyflogaeth
Mae Tasglu Cydraddoldeb Hiliol a sefydlwyd i ddelio ag anghydraddoldeb hiliol ledled Caerdydd wedi rhyddhau ei set gyntaf o argymhellion.
Mae'r Tasglu, a gynigiwyd gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn ymateb i farwolaeth drasig George Floyd yn UDA a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yn y DU, wedi bod yn gweithio ar gyfres o gynigion i helpu i wella bywydau a chyfleoedd cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd.
Mae'r set gyntaf o argymhellion yn cynnwys:
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas: "Er bod gan Gaerdydd hanes balch o amlddiwylliannaeth, a thraddodiad o ddathlu amrywiaeth, mae digwyddiadau yn ddiweddar wedi dangos i ni na allwn ganiatáu i ni ein hunain fyth ddod yn hunanfodlon. Mae pobl o liw yn ein dinas sy'n wynebu hiliaeth fel nodwedd o'u bywydau bob dydd ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Sefydlwyd y Tasglu i gyflwyno argymhellion a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd a chyflogaeth ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Rydym am i bawb yn ein dinas deimlo'n ddiogel a chael yr un cyfleoedd i wneud bywyd gwell iddynt hwy eu hunain a'u teuluoedd waeth beth fo'u hil neu liw eu croen. Rwy'n credu bod y cynigion cychwynnol hyn, a dim ond y dechrau yw hyn, yn dechrau proses ymarferol a fydd yn helpu i sicrhau canlyniadau go iawn a chadarnhaol."
Dywedodd Cadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, y Cynghorydd Saeed Ebrahim: "Pan sefydlon ni'r Tasglu, gwnaethom yn glir ein bod am ddod o hyd i atebion ar gyfer y gwahaniaethu a'r anfanteision y mae cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd yn eu hwynebu. Anfanteision a amlygwyd yn drasig gan bandemig COVID. Yn dilyn ein trafodaethau cychwynnol, rydym wedi canolbwyntio ar geisio cyflwyno atebion ymarferol a all helpu pobl i mewn i waith a chynnig llwybr gyrfa iddynt unwaith y byddant yn sicrhau gwaith. Rydym hefyd wedi ystyried sut y gallwn wella bywydau pobl ifanc, gan sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus yn yr ysgol a bod ganddynt hyder i siarad am y problemau y maent yn eu hwynebu. Os ydym am newid sefyllfa cydraddoldeb hiliol, yna mae angen i bobl gael yr un cyfleoedd mewn bywyd, a bydd addysg a gwaith yn ddau faes allweddol lle gallwn helpu i wneud gwahaniaeth i bobl."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26745.html
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 09 Mehefin
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 521,757 (Dos 1: 346,913 Dos 2: 174,833)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Gweddnewidiad Maelfa wedi'i gwblhau
Mae trawsnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd i gyfleusterau siopa a chymunedol Llanedern wedi'i gwblhau.
Mae Cynllun Adfywio Maelfa wedi adfywio'r ardal leol ac wedi creu canolfan siopa fodern, newydd, tai newydd fforddiadwy, gwell seilwaith ffyrdd a gwelliannau parcio a thir cyhoeddus. Cwblhawyd Cam 1 ddiwedd 2019 ac mae Cam 2 bellach wedi'i gwblhau hefyd.
Mae trawsnewidiad cynhwysfawr yr ardal wedi'i gyflawni gan y Cyngor a'i bartneriaid datblygu, Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, ac mae wedi cynnwys dymchwel yr hen ganolfan siopa a adeiladwyd yn y 1970au, ac nad oedd yn cael ei defnyddio'n llawn, a chodi 9 siop newydd, 40 o fflatiau ac 16 o dai tref. Mae pob un o'r naw siop bellach wedi'u meddiannu.
Yn ogystal â'r cynllun hwn, mae'r bloc uchel 10 llawr o fflatiau ym Maelfa hefyd wedi'i adnewyddu, gyda gwell mynediad i breswylwyr i'r adeilad, ffenestri newydd a balconïau lliwgar. Mae'r gwaith brics allanol hefyd wedi ei glanhau i gyd-weddu â'r ailddatblygu cyfagos.
Mae gwaith adfywio yn dal i ddigwydd yn Llanedern gyda Hwb Iechyd a Lles partneriaeth newydd yn cael ei adeiladu a'i gysylltu â Hyb Cymunedol Powerhouse y Cyngor. Bydd cam cyntaf hyn wedi'i gwblhau fis nesaf, pan fydd Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd addas at y diben ar gyfer pobl ifanc yn cael ei agor. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys bloc cartrefi pobl hŷn newydd ar y safle y tu ôl i fflatiau Maelfa, hefyd ar y gweill.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: Mae'r Maelfa newydd yn edrych yn wych. Roedd yr hen ganolfan siopa wedi dod i bendraw ei oes, yn costio'n ddrud o ran ei chynnal ac nid oedd bellach yn addas at y diben, felly rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu creu cyfleuster mor arbennig."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26732.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (29 Mai - 04 Mehefin)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
08 Mehefin 2021, 09:00
Achosion: 43
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 11.7 (Cymru: 11.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,587
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 977.6
Cyfran bositif: 1.2% (Cymru: 1.2% cyfran bositif)