Back
Datganiad ar ardal cefnogwyr yr Ewros
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Ers i’r Prif Weinidog gyhoeddi ddydd Gwener diwethaf bod Cymru yn symud i Haen Un o'r cyfyngiadau symud, mae'r Cyngor wedi bod yn edrych ary posibilrwydd o gynnal ardaloedd cefnogwyr ar gyfer gemau Cymru yn yr Ewros.

"Mae hyn wedi cynnwys trafodaethau gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Heddlu De Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwr Diogelu'r Cyhoedd.

"Byddai'n anodd trefnu ardaloedd cefnogwyr ar fyr rybudd hyd yn oed pan mae’r sefyllfa ar ei gorau, ond mae'n anos byth o ystyried lledaeniad amrywiolyn Delta. Byddai digwyddiadau sy'n cydymffurfio â chyfyngiadau Covid yn gofyn am ystod gynhwysfawr o fesurau iechyd cyhoeddus, gan gynnwys Profion Llif Unffordd, er mwyn rhoi hyder i'r cyhoedd y gellid eu cynnal yn ddiogel heb fygwth iechyd y cyhoedd.

"Byddai cymhwyso gofynion ymbellhau cymdeithasol yn cyfyngu'n sylweddol ar niferoedd ac yn amharu ar y profiad ardal cefnogwyr, a fyddai'n debygol ofod yn fyd o wahaniaeth o'r hyn a fwynhawyd gennym i gyd yn ôl yn 2016.

"Am yr holl resymau hyn, rydym wedi dod i'r casgliad nad yw'n ymarferol darparu profiad ardal cefnogwyr yn ystod y gemau grŵp.  Rhaid i ni roi blaenoriaeth bob amser i iechyd cyhoeddus ein cymunedau lleol, fodd bynnag, byddwn yn parhau i adolygu'r mater wrth i'r twrnamaint fynd yn ei flaen."