Back
Gweddnewidiad Maelfa wedi'i gwblhau


 

8/6/21

Mae trawsnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd i gyfleusterau siopa a chymunedol Llanedern wedi'i gwblhau.

 

Mae Cynllun Adfywio Maelfa wedi adfywio'r ardal leol ac wedi creu  canolfan siopa fodern, newydd, tai newydd fforddiadwy, gwell seilwaith ffyrdd a gwelliannau parcio a thir cyhoeddus. Cwblhawyd Cam 1 ddiwedd 2019 ac mae Cam 2 bellach wedi'i gwblhau hefyd.

 

Mae trawsnewidiad cynhwysfawr yr ardal wedi'i gyflawni gan y Cyngor a'i bartneriaid datblygu, Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, ac mae wedi cynnwys dymchwel yr hen ganolfan siopa a adeiladwyd yn y 1970au, ac nad oedd yn cael ei defnyddio'n llawn, a chodi 9 siop newydd, 40 o fflatiau ac 16 o dai tref. Mae pob un o'r naw siop bellach wedi'u meddiannu.

 

Yn ogystal â'r cynllun hwn, mae'r bloc uchel 10 llawr o fflatiau ym Maelfa hefyd wedi'i adnewyddu, gyda gwell mynediad i breswylwyr  i'r adeilad, ffenestri newydd a balconïau lliwgar. Mae'r gwaith brics allanol hefyd wedi ei glanhau i gyd-weddu â'r ailddatblygu cyfagos.

 

Mae gwaith adfywio yn dal i ddigwydd yn Llanedern gyda Hwb Iechyd a Lles partneriaeth newydd yn cael ei adeiladu a'i gysylltu â Hyb Cymunedol Powerhouse y Cyngor. Bydd cam cyntaf hyn wedi'i gwblhau fis nesaf, pan fydd Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd addas at y diben ar gyfer pobl ifanc yn cael ei agor.  Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys bloc cartrefi pobl hŷn newydd ar y safle y tu ôl i fflatiau Maelfa, hefyd ar y gweill.

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: Mae'r Maelfa newydd yn edrych yn wych. Roedd yr hen ganolfan siopa wedi dod i bendraw ei oes, yn costio'n ddrud o ran ei chynnal ac nid oedd bellach yn addas at y diben, felly rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu creu cyfleuster

mor arbennig.

 

"Rydym yn ddiolchgar iawn am amynedd y gymuned leol a busnesau lleol, a barhaodd i fasnachu trwy gydol cyfnod datblygu'r cynllun fesul cam.

 

"Mae adfywio'r ardal leol yn golygu llawer mwy na'r ganolfan siopa serch hynny. Bydd yr hyb Iechyd a Lles newydd yn ased cymunedol ardderchog ac rwy'n falch iawn o'r gwaith i'r fflatiau uchel hefyd."

 

Dywedodd Dharmesh Patel o Jay's News: "Mae ein huned siop newydd yn rhoi presenoldeb llawer mwy gweladwy i'n busnes yn y gymuned, ac amgylchedd llawer gwell i'n cwsmeriaid siopa ynddo."