Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; dweud eich dweud ar ddyfodol Caerdydd; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 01 Mehefin
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 483,880 (Dos 1: 340,104 Dos 2: 143,758)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Dweud eich dweud ar ddyfodol Caerdydd
Mae trigolion, pobl fusnes a rhanddeiliaid Caerdydd yn cael eu gwahodd i ymuno â sgwrs ac ymarfer ymgysylltu am ddyfodol eu dinas mewn byd ar ôl y pandemig.
Bydd strategaeth adfer ac adnewyddu'r ddinas - Gwyrddach, Tecach, Cryfach - yn cael ei lansio ddydd Iau, 3 Mehefin, rhwng 9.30am ac 11am, ac mae gwahoddiad agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol Caerdydd i ymuno.
Bydd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a Phennaeth Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yr Athro Gill Bristow, yn ymuno ag arbenigwr blaenllaw o ran dinasoedd, Dr Tim Williams, wrth iddynt ddechrau ar gyfres o sgyrsiau a sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â'r heriau a'r cyfleoedd y mae Caerdydd yn eu hwynebu ar ôl y pandemig.
Bydd y 'sgwrs' gyntaf ar ffurf gweminar a gall unrhyw un sy'n dymuno ymuno wneud hynny drwy gofrestru i fod yn rhan ohoni yma.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26689.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (21 Mai - 27 Mai)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
30 Mai 2021, 09:00
Achosion: 33
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 9.0 (Cymru: 8.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,099
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 844.6
Cyfran bositif: 1.1% (Cymru: 0.9% cyfran bositif)