Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a Pad Sblasio Parc Fictoria i ailagor gyda mesurau diogelu rhag Covid ar waith.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 25 Mai
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 473,111 (Dos 1: 335,559 Dos 2: 137,534)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (14 Mai - 20 Mai)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
24 Mai 2021, 09:00
Achosion: 35
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 9.5 (Cymru: 8.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,286
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 895.6
Cyfran bositif: 1.1% (Cymru: 1.0% cyfran bositif)
Pad Sblasio Parc Fictoria i ailagor gyda mesurau diogelu rhag Covid ar waith
Bydd y pad sblasio ym Mharc Fictoria yn ailagor ddydd Gwener 28 Mai gyda mesurau newydd ar waith i sicrhau bod teuluoedd yn gallu dychwelyd yn ddiogel.
Mewn newid i flynyddoedd blaenorol, bydd system giwio gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, a bydd nifer y plant sy'n cael defnyddio'r cyfleuster yn cael eu cyfyngu i uchafswm o 50 ar unrhyw un adeg.
Yn ystod oriau brig a phrysur, bydd slotiau amser pum munud ar hugain ar waith.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r pandemig wedi bod yn anodd i bob un ohonom ond yn enwedig i blant. Rhaid cyfaddef, maen nhw'n haeddu ychydig o hwyl. Gobeithio y bydd y newyddion bod y pad sblasio yn ailagor yn rhoi cychwyn ar haf hir llawn gwenau."
Cafodd yr atyniad poblogaidd, sy'n cynnwys amrywiaeth o jetiau a chwistrellau yn ogystal â thwnnel a bwced dŵr dymchwel, ei gau trwy gydol yr haf diwethaf o ganlyniad i bandemig Covid-19.
Mae'r pad sblasio ar agor o 10am tan 7pm ar y penwythnos, o 12pm tan 7pm ar ddyddiau'r wythnos waith yn ystod y tymor ac o 10am tan 7pm ar ddyddiau'r wythnos waith yn ystod gwyliau'r ysgol.
Caiff y mesurau diogelwch eu hadolygu'n barhaus i ymgorffori unrhyw newidiadau i reolau sy'n ymwneud â Covid-19. Cynghorir ymwelwyr i wirio www.caerdyddawyragored.com cyn ymweld er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.