Back
Pad Sblasio Parc Fictoria i ailagor gyda mesurau diogelu rhag Covid ar waith
Bydd y pad sblasio ym Mharc Fictoria yn ailagor ddydd Gwener 28 Mai gyda mesurau newydd ar waith i sicrhau bod teuluoedd yn gallu dychwelyd yn ddiogel.

Mewn newid i flynyddoedd blaenorol, bydd system giwio gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, a bydd nifer y plant sy'n cael defnyddio'r cyfleuster yn cael eu cyfyngu i uchafswm o 50 ar unrhyw un adeg.

Yn ystod oriau brig a phrysur, bydd slotiau amser pum munud ar hugain ar waith.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r pandemig wedi bod yn anodd i bob un ohonom ond yn enwedig i blant. Rhaid cyfaddef, maen nhw'n haeddu ychydig o hwyl. Gobeithio y bydd y newyddion bod y pad sblasio yn ailagor yn rhoi cychwyn ar haf hir llawn gwenau."

Cafodd yr atyniad poblogaidd, sy'n cynnwys amrywiaeth o jetiau a chwistrellau yn ogystal â thwnnel a bwced dŵr dymchwel, ei gau trwy gydol yr haf diwethaf o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Mae’r pad sblasio ar agor o 10am tan 7pm ar y penwythnos, o 12pm tan 7pm ar ddyddiau’r wythnos waith yn ystod y tymor ac o 10am tan 7pm ar ddyddiau’r wythnos waith yn ystod gwyliau’r ysgol.

Caiff y mesurau diogelwch eu hadolygu'n barhaus i ymgorffori unrhyw newidiadau i reolau sy'n ymwneud â Covid-19. Cynghorir ymwelwyr i wirio www.caerdyddawyragored.com cyn ymweld er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.