Back
Cogydd blaenllaw yn cael ei choroni mewn her prydau iach

 25/5/21


Mae cystadleuaeth 'ymryson y cogyddion' ledled y ddinas wedi dod i ben gyda'r enillydd yn ennill taleb archfarchnad gwerth £150.

 

Enillodd Daria Krasinska o Pengam Green yr anrhydedd uchaf am y prydau bwyd a goginiodd fel rhan o her goginio iach a lansiwyd gan Dîm Cyngor Ariannol y Cyngor ym mis Mawrth.

 

Roedd Daria a'i theulu yn un o 50 o aelwydydd yn y ddinas a oedd yn cystadlu gyda sosban yn erbyn sosban, chwisg yn erbyn chwisg i greu'r prydau iach gorau yn seiliedig ar ryseitiau iachus a maethlon a ddatblygwyd gan diwtoriaid o Wasanaeth Dysgu Oedolion y Cyngor.

Derbyniodd pob aelwyd flwch o gynhwysion iach ac offer coginio a chawsant eu hannog i greu cyflenwad wythnos o brydau blasus i'r teulu trwy ddilyn y tiwtorialau fideo ar-lein, neu gardiau ryseitiau a wnaed gan Wasanaeth Dysgu Oedolion.

Mae'r her wedi'i hwyluso trwy gyllid Llywodraeth Cymru fel rhan o'r dull Adeiladu Cymru Iachach a dderbyniwyd trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n ceisio trawsnewid iechyd a lles trwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Helpodd yr her i hybu arferion coginio a bwyta iach ymhlith preswylwyr a gymerodd ran gan y cafodd pob pryd ei ddewis yn ofalus ar sail ei werthoedd maethlon yn ogystal â'i gost-effeithiolrwydd.

Gan oresgyn cystadleuaeth anodd gan ei chyd-herwyr coginio a gyflwynodd luniau o'u creadigaethau coginio i'r Tîm Cyngor Ariannol, dewiswyd Daria fel yr enillydd, yn seiliedig ar ycyflwyniad a pha mor flasus eu golwg oedd ei phrydau bwyd.

 

Dywedoddd Daria: "Yn ystod y pandemig, gan fy mod gartref gyda dau o blant prysur, roeddwn i'n cael trafferth dod o hyd i ffyrdd o ddifyrru fy nheulu.  Chwiliais ar-lein a darganfod yr her wych hon yr oeddwn am gymryd rhan ynddi ar unwaith. Roedd y cardiau ryseitiau yn hawdd eu dilyn ac rwyf hefyd wedi mwynhau gwylio'r tiwtorialau ar-lein.

"Mae coginio gyda fy nheulu wedi bod yn ffordd wych o fondio a dysgu sgiliau newydd.  Roedd y bwyd yn flasus ac yn hawdd ei wneud - roedd fy mhlant wrth eu boddau."

 

Image

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Llongyfarchiadau i Daria a'i theulu ar eu buddugoliaeth a diolch i bawb a gymerodd ran am eu hymdrechion arbennig.  Roedd yn gystadleuaeth anodd a chreodd y lluniau o'r prydau blasus a gafodd eu coginio gan ein herwyr argraff fawr ar banel y beirniaid. Serch hynny, ar ôl ystyried yn ofalus, cafodd Daria ei henwi'n 'Gogydd Iach Gorau' am y prydau rhagorol a greodd."