Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 21 Mai
Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; yn croesawu mwy o gwsmeriaid yn ôl i hybiau a llyfrgelloedd; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 21 Mai
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 457,858 (Dos 1: 327,250 Dos 2: 130,590)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Yn croesawu mwy o gwsmeriaid yn ôl i hybiau a llyfrgelloedd
Bydd gweithgareddau grŵp dan do ac awyr agored yn dechrau cael eu cynnal eto mewn hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas o'r wythnos nesaf ymlaen.
Bydd digwyddiadau a gweithgareddau wyneb yn wyneb covid-ddiogel yn cael eu hailgyflwyno o ddydd Llun, 24 Mai fesul cam, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Bydd y cynnydd mewn gwasanaethau yn cynnwys digwyddiadau cymunedol awyr agored a dan do, gweithgareddau hamdden a grwpiau i blant. Bydd digwyddiadau i gefnogi iechyd a lles preswylwyr, fel Caffis Dementia, grwpiau garddio, boreau coffi cymdeithasol a sesiynau atgofion chwaraeon hefyd yn ailddechrau.
Bydd gwybodaeth am yr holl weithgareddau a sesiynau ar gael ar wefan Digwyddiadau'r Hyb yn www.hybiaucaerdydd.co.uk a bydd angen i unrhyw un sy'n dymuno mynychu digwyddiadau archebu eu lle ymlaen llaw drwy ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae ein gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd wedi gwneud gwaith aruthrol yn darparu gwasanaethau hanfodol i gwsmeriaid dros y 14 mis diwethaf a nawr, gan fod cyfyngiadau'n lleddfu a mwy o wasanaethau ar draws y ddinas yn cael eu hailgyflwyno, rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i gynnig gweithgareddau a digwyddiadau wyneb yn wyneb i gwsmeriaid unwaith eto.
"Mae gwasanaethau digidol a ffyrdd o gadw pobl mewn cysylltiad wedi bod yn holl bwysig drwy gydol y pandemig a byddwn yn dal i ddefnyddio'r dulliau hyn, ond rydym yn gwybod i lawer, nid oes unrhyw beth yn gallu cymryd lle rhyngweithio wyneb yn wyneb a gobeithiwn y bydd iechyd a lles pobl yn cael hwb drwy gymryd rhan yn ein gweithgareddau cymunedol unwaith eto."
Bydd cyfleoedd gwirfoddoli, sy'n darparu llwybr rhagorol i mewn i waith ac sy'n gallu gwella iechyd a lles pobl, yn cael eu hailgyflwyno o fewn gwasanaethau'r Cyngor drwy ddull cam wrth gam yr haf hwn gan ddechrau gyda gwirfoddoli cynhwysiant digidol yn Hyb y Llyfrgell Ganolog y mis nesaf gan ehangu i fwy o wasanaethau fel y bo'n briodol.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (10 Mai - 16 Mai)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
20 Mai 2021, 09:00
Achosion: 66
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 18.0 (Cymru: 9.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,889
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,060.0
Cyfran bositif: 1.7% (Cymru: 1.0% cyfran bositif)