Back
Yn croesawu mwy o gwsmeriaid yn ôl i hybiau a llyfrgelloedd


 21/5/21

Bydd gweithgareddau grŵp dan do ac awyr agored yn dechrau cael eu cynnal eto mewn hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas o'r wythnos nesaf ymlaen.

 

Bydd digwyddiadau a gweithgareddau wyneb yn wyneb covid-ddiogel yn cael eu hailgyflwyno o ddydd Llun, 24 Mai fesul cam, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Bydd y cynnydd mewn gwasanaethau yn cynnwys digwyddiadau cymunedol awyr agored a dan do, gweithgareddau hamdden a grwpiau i blant.  Bydd digwyddiadau i gefnogi iechyd a lles preswylwyr, fel Caffis Dementia, grwpiau garddio, boreau coffi cymdeithasol a sesiynau atgofion chwaraeon hefyd yn ailddechrau.

 

Bydd gwybodaeth am yr holl weithgareddau a sesiynau ar gael ar wefan Digwyddiadau'r Hyb ynwww.hybiaucaerdydd.co.uka bydd angen i unrhyw un sy'n dymuno mynychu digwyddiadau archebu eu lle ymlaen llaw drwy ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu e-bostiohybcynghori@caerdydd.gov.uk

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae ein gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd wedi gwneud gwaith aruthrol yn darparu gwasanaethau hanfodol i gwsmeriaid dros y 14 mis diwethaf a nawr, gan fod cyfyngiadau'n lleddfu a mwy o wasanaethau ar draws y ddinas yn cael eu hailgyflwyno, rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i gynnig gweithgareddau a digwyddiadau wyneb yn wyneb i gwsmeriaid unwaith eto.

 

"Mae gwasanaethau digidol a ffyrdd o gadw pobl mewn cysylltiad wedi bod yn holl bwysig drwy gydol y pandemig a byddwn yn dal i ddefnyddio'r dulliau hyn, ond rydym yn gwybod i lawer, nid oes unrhyw beth yn gallu cymryd lle rhyngweithio wyneb yn wyneb a gobeithiwn y bydd iechyd a lles pobl yn cael hwb drwy gymryd rhan yn ein gweithgareddau cymunedol unwaith eto."

 

Bydd cyfleoedd gwirfoddoli, sy'n darparu llwybr rhagorol i mewn i waith ac sy'n gallu gwella iechyd a lles pobl, yn cael eu hailgyflwyno o fewn gwasanaethau'r Cyngor drwy ddull cam wrth gam yr haf hwn gan ddechrau gyda gwirfoddoli cynhwysiant digidol yn Hyb y Llyfrgell Ganolog y mis nesaf gan ehangu i fwy o wasanaethau fel y bo'n briodol.