20.05.2021
Gofynnwch i'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau beth maen nhw'n ei wneud yn eu hamser hamdden yn ystod y cyfnodau clo ac rydych chi'n debygol o glywed cymysgedd o ymatebion.
Mae llawer yn hoffi treulio eu hamser rhydd gyda theulu, mynd i siopa, darllen, treulio amser y tu allan yn ddiogel gyda'u ffrindiau neu gallent sôn am farathonau Netflix ac ymarfer tueddiadau Tik Tok (felly y dywedir wrthym ni...)
Fodd bynnag, mae dau berson ifanc lleol yn treulio eu hamser rhydd yn gwneud daioni yn eu cymunedau lleol drwy fynd i'r afael â phroblem sbwriel.
Arjen Bhal 14 oed a Jaden Manns 13 oed o Lys-faen a Grangetown sy'n dweud wrthym pam eu bod yn gwirfoddoli gyda Cadwch Grangetown yn Daclus:
Beth wnaeth i chi fod eisiau cymryd rhan yn casglu sbwriel yn y gymuned?
Jaden:Roedd cymuned Grangetown yn ystod y cyfyngiadau clo wedi dangos ysbryd teuluol gwych a sylwais fod llawer o wirfoddolwyr yn helpu i gadw'r ardal gyfagos yn lân. Roeddwn i eisiau bod yn rhan o hyn ac fel rhan o Fy Ngwobr Dug Caeredin penderfynais y byddai hwn yn gyfle gwych i roi rhywbeth yn ôl i'm cymuned a chadw Grangetown yn lân. Roedd hefyd yn gyfle gwych i dreulio amser gyda theulu, ffrindiau ac wrth gwrs cerdded Bruno'r ci!
Arjen:Roeddwn i'n bwriadu gwneud fy Ngwobr Dug Caeredin ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth fyddai'n fy helpu i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned ac roeddwn hefyd eisiau treulio mwy o amser gyda fy ffrindiau, fy nheulu a Milo ein ci.
Beth wnaeth i chi fod eisiau cymryd rhan yn rhaglen Gwobr Dug Caeredin?
Arjen:Mae llawer o fy nheulu wedi cymryd rhan yn y Wobr ac wedi cael profiadau gwych felly roeddwn i'n meddwl y byddai'n beth cŵl i'w wneud.
Jaden:Mae ein hysgol yn ymwneud yn helaeth bob blwyddyn â threfnu llawer o deithiau ar gyfer y Wobr ac wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer. Wrth dyfu i fyny, rwyf wedi gweld llawer o'm cyfoedion yn llwyddo mewn heriau personol a gweithgareddau gwirfoddoli ac maent wedi cael manteision cadarnhaol o'r profiad hwn.
Pa neges fyddech chi'n ei roi wrth bobl eich oedran chi sy'n meddwl am wirfoddoli yn eu cymuned?
Jaden:Dewch ‘da ni! Gallwch wirfoddoli'n ddiogel, cadw pellter cymdeithasol a mwynhau'r awyr agored wrth gadw Caerdydd yn lân a bod yn rhan o wneud rhywbeth cadarnhaol tuag at newid yn yr hinsawdd. Mae amser yn pasio'n gyflym iawn, ac mae'r cŵn yn cael taith gerdded dda hefyd!
Arjen:Rwy'n credu ei fod yn syniad gwych wrth i chi gael ymdeimlad o berthyn i'r gymuned a rhoi rhywbeth yn ôl. At hynny, cewch gwrdd â phobl wych a newydd sydd bob amser yn hwyl.
Mae'n ddealladwy bod rhieni'r bechgyn, Nisha a Pete a Nadia a Kiron, yn falch iawn o'u meibion a'r gefnogaeth gymunedol.
"Hoffem ddiolch yn arbennig i Fiona McAlister o Keep Grangetown Tidy am gefnogi Arjen a Jaden yn ystod y profiad hwn" medden nhw.
"Hoffem hefyd ddiolch i'w Pennaeth Eco Ryfelwyr Mr Paul Norton am y gefnogaeth y mae'n ei rhoi'n barhaus ac wrth wrando ar leisiau myfyrwyr yr ysgol a bod yn rhan o brosiect mor gyffrous â Dug Caeredin.
Diolch hefyd i Miss Hollie Lewis am fod yn arweinydd Dug Caeredin ac annog y myfyrwyr hyn i helpu'r gymuned i ffynnu yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Hoffai Cyngor Caerdydd hefyd ychwanegu ein diolch i Arjen a Jaden - a'n holl Arwyr Sbwriel - am wneud gwaith mor wych a pharhau i helpu i Gadw Caerdydd yn Daclus.
Wedi'ch ysbrydoli? Cymerwch ran! Gellir dod o hyd iganllawiau pellach am gasglu sbwriel wrth gadw pellter cymdeithasol ar wefan Cadwch Gaerdydd yn Daclus,https://www.keepcardifftidy.com/cy/.
Ymunwch â miloedd o drigolion ac ymwelwyr sydd wedi lawrlwytho app Cardiff Gov am ffordd glyfrach i gysylltu â gwasanaethau'r cyngor asôn am daflu sbwrielneu gallwch sôn am sbwriel hefyd ar ein gwefan yma:Taflu sbwriel (cardiff.gov.uk)
Cydnabyddiaeth ffoto: Rhieni Jaden ac Arjen - Nisha a Pete, Nadia a Kiron