Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 14 Mai

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: creu Caerdydd newydd, werddach, gryfach a thecach wrth adfer o COVID; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; creu Adferiad sy'n Dda i Blant ar gyfer Caerdydd; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a Cynnydd tuag at Gaerdydd Un Blaned "iachach, gwyrddach a gwylltach".

 

Creu Caerdydd newydd, werddach, gryfach a thecach wrth adfer o COVID

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cyfres o gynigion a gynlluniwyd i hybu economi Caerdydd a gwella bywydau trigolion wrth i Gymru ddod allan o'r cyfnod cloi.

Mae'r strategaeth ar gyfer adfer ac adfywio'r ddinas ar ôl COVID-19 yn defnyddio adroddiad a luniwyd ar gyfer y Cyngor gan arbenigwr blaenllaw ar ddinasoedd a pholisïau rheoli trefol.

Mae awdur yr adroddiad, Dr Tim Williams, wedi gweithio ledled y byd ers 20 mlynedd gan helpu dinasoedd fel Llundain a Sydney i ddatblygu strategaethau trefol. Comisiynwyd ei adroddiad - Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19 - gan y Cyngor i herio ei feddylfryd ei hun, ac i weithredu fel cyfaill beirniadol annibynnol.

Ar ôl derbyn adroddiad Dr Williams, mae'r Cyngor wedi llunio pedwar adroddiad ei hun, sy'n cael eu cyhoeddi heddiw ac sy'n amlinellu sut y bydd Cyngor Caerdydd yn gweithio tuag at gyflawni strategaeth adfer ac adfywio ar gyfer y ddinas a fydd yn:

 

  • Ail-lunio canol y ddinas, gan greu lle bywiog a chroesawgar i bawb sy'n ymweld ac yn gweithio yno;
  • Helpu i greu swyddi a phrentisiaethau newydd, gan roi hwb i gyfleoedd cyflogaeth;
  • Cyflawni adferiad 'Cenedl Un Blaned' sy'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd; a bydd yn
  • Gweithio tuag at sicrhau gwell canlyniadau i blant - yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig - fel rhan o adferiad 'sy'n dda i blant'.

 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried yr adroddiadau yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 20 Mai. Os cytunir ar yr adroddiadau hyn, bydd y Cyngor yn dechrau trafod â thrigolion a rhanddeiliaid y ddinas dros yr haf i geisio eu barn ar y cynigion.

Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae pandemig Covid-19 wedi cyflwyno'r her fwyaf i wasanaethau cyhoeddus ac i fywyd y ddinas mewn cenhedlaeth.  Yn ystod yr argyfwng mae'r Cyngor hwn wedi chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol, yn enwedig i drigolion mwyaf agored i niwed y ddinas.

"Ar ddechrau'r argyfwng daethom â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat ynghyd i arwain ymateb dinas-gyfan llwyddiannus i'r pandemig. Nawr mae'n bwysig ein bod yn parhau â'r gwaith da, gan lunio dyfodol Caerdydd ochr yn ochr â'r partneriaid hynny a thrigolion y ddinas wrth i ni geisio ailagor yn ddiogel. Rydym i gyd yn gobeithio mai'r cyfnod cloi hwn fydd yr olaf, ond wrth i'r ddinas ddod allan o'r pandemig mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau adferiad buan sy'n diogelu swyddi a bywoliaeth pobl.

"Mae Covid wedi cyflwyno heriau, a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae'n debygol y bydd yna effeithiau economaidd a chymdeithasol hirdymor, ond bydd cyfleoedd hefyd i ailystyried y ffordd rydym am i'n dinas dyfu ac am y ffordd rydym am fyw ein bywydau mewn byd ar ôl Covid.

"Rydym eisoes wedi gweld tueddiadau, a oedd yn dod i'r amlwg cyn Covid, yn cyflymu - newidiadau i'r ffordd rydym am fyw, gweithio, siopa a threulio ein hamser hamdden. Wrth symud ymlaen bydd cyfleoedd i newid y ffordd rydym yn gweithio, i wneud bywyd yn fwy lleol, i leihau tagfeydd, i gymryd camau i lanhau'r aer a anadlwn ac i wella'r amgylchedd.

"Mae'r Cyngor hwn yn benderfynol o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'w holl drigolion. Rydyn ni wedi llunio cynlluniau a fydd, yn ein barn ni, yn helpu Caerdydd i adfer o'r pandemig, cynlluniau a all fod o fudd i bawb sy'n byw ac yn gweithio yma. Hoffwn ddechrau sgwrs Uchelgais Prifddinas newydd gyda dinasyddion a rhanddeiliaid y ddinas ar sut y gallwn lunio ac arwain y gwaith o adfer ac adfywio prifddinas Cymru. Rydyn ni am adeiladu Caerdydd newydd, dinas sy'n gweithio i bawb sy'n byw ynddi, ac sy'n gweithio i Gymru. Dinas a fydd yn parhau i dyfu a ffynnu yn yr un modd â thros yr 20 mlynedd diwethaf. Dinas wych i fyw ynddi ac un sy'n gallu parhau i bweru llwyddiant economaidd Cymru."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26534.html

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 14 Mai

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  432,734 (Dos 1: 312,531 Dos 2:  120,185)

 

  • 80 a throsodd: 21,084 / 94.2% (Dos 1) 19,584 / 87.5% (Dos 2)
  • 75-79: 15,089 / 95.8% (Dos 1) 14,223 / 90.3% (Dos 2)
  • 70-74: 21,447 / 95.3% (Dos 1) 20,650 / 91.7% (Dos 2)
  • 65-69: 21,670 / 92.9% (Dos 1) 13,996 / 60% (Dos 2)
  • 60-64: 25,755 / 91.3% (Dos 1) 14,343 / 50.8% (Dos 2)
  • 55-59: 28,954 / 89% (Dos 1) 6,459 / 19.9% (Dos 2)
  • 50-54: 28,403 / 86.1% (Dos 1) 5,818 / 17.6% (Dos 2)
  • 40-49: 52,585 / 78.1% (Dos 1) 9,531 / 14.1% (Dos 2)
  • 30-39: 50,235 / 63.9% (Dos 1) 8,535 / 10.9% (Dos 2)
  • 18-29: 46,852 / 47.7% (Dos 1) 8,458 / 8.6% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,013 / 97.8% (Dos 1) 1,887 / 91.6% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,225 / 92.6% (Dos 1) 9,998 / 82.5% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 44,135 / 87.1% (Dos 1) 5,927 / 11.7% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Creu Adferiad sy'n Dda i Blant ar gyfer Caerdydd

Bydd plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd yn rhan annatod o ymagwedd y ddinas at adfer ac adnewyddu yn sgil effaith y pandemig.

Mae cyfres o gynlluniau tymor byr a thymor hwy wedi'u nodi mewn adroddiad i'w ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 20 Mai sy'n canolbwyntio ar ddarparu Adferiad sy'n Dda i Blant.

Mae'r adroddiad yn cydnabod effaith y pandemig ar addysg, hawliau, lles a llwybrau plant a phobl ifanc i gyflogaeth yn y dyfodol ac mae'n cynrychioli elfen Adfer sy'n Dda i Blant yn Uchelgais Prifddinas y Cyngor: Rhaglen Adfer ac Adnewyddu sy'n cwmpasu pedwar maes adfer allweddol gan gynnwys gwyrdd, economaidd, da i blant a threfniadaethol.

Mae Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff plant a phobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin ers lansio Strategaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant yn 2018, a oedd yn nodi uchelgais Caerdydd i gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant.

Gan gydnabod y rôl arloesol y mae'r Cyngor wedi'i chwarae fel un o'r rhai cyntaf i ymuno â'i raglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant, mae Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF wedi awgrymu bod Caerdydd yn cyflwyno ar gyfer cydnabyddiaeth fel Dinas sy'n Dda i Blant yn ddiweddarach eleni.

Datblygwyd y cynllun adfer gyda phlant a phobl ifanc yn ganolog iddo ac mae'n cynnwys cynlluniau ar gyfer mwy o weithio mewn partneriaeth ar draws gwahanol wasanaethau'r cyngor a chyda phartneriaid, i sicrhau bod Caerdydd yn 'Lle Gwych i Dyfu i Fyny' lle mae lleisiau, anghenion a hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu parchu a lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn ddiogel iach, hapus ac yn gallu rhannu yn llwyddiant y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Rydym wedi ymrwymo i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF y DU ac felly mae'n hanfodol bod yr uchelgais hwn yn cael ei adlewyrchu wrth ddatblygu a chyflawni ein rhaglen adfer ac adnewyddu.

"Mae plant a phobl ifanc wedi colli cymaint yn ystod y pandemig ac mae'n hanfodol ein bod yn y lle cyntaf yn mynd i'r afael â'r angen iddynt adfer profiadau cymdeithasol, hamdden a chwaraeon y maent wedi'u colli, ac yn syml i gael 'bod' gyda'u ffrindiau.

"Drwy ymdrechion ar y cyd ar draws holl adrannau'r Cyngor, gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaethau ar draws y ddinas-ranbarth, gallwn helpu i sicrhau nad yw tarfu ac unrhyw brofiadau negyddol yn sgil y pandemig yn cael effaith barhaol a niweidiol ar ein plant a'n pobl ifanc.

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi arwain at newid digynsail ac rydym bellach yn cael cyfle i fyfyrio nid yn unig ar brofiadau'r pandemig ond ar ein taith Da i Blant hyd yma ac i atgyfnerthu'r gwersi a ddysgwyd cyn nodi ein cenadaethau yn y dyfodol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26536.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (03 Mai - 09 Mai)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

13 Mai 2021, 09:00

 

Achosion: 57

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 15.5 (Cymru: 9.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,721

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,014.2

Cyfran bositif: 1.5% (Cymru: 0.9% cyfran bositif)

 

Cynnydd tuag at Gaerdydd Un Blaned "iachach, gwyrddach a gwylltach"

Mae "cynnydd sylweddol" yn cael ei wneud yn ymateb Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd - 'Caerdydd Un Blaned', yn ôl adroddiad gan y Cabinet sydd i'w drafod yr wythnos nesaf.

Mae adroddiad Un Blaned yn un o bedwar adroddiad allweddol sy'n amlinellu strategaeth adnewyddu ac adferiad ôl-bandemig y Cyngor ar gyfer y ddinas, yn cwmpasu adferiad gwyrdd, adferiad economaidd, adferiad sy'n ystyriol o blant, ac adferiad sefydliadol.

Bwriedir trafod un adroddiad amgylcheddol arall hefyd, sy'n canolbwyntio ar y camau a gymerir i wneud Caerdydd yn "Iachach, Gwyrddach a Gwylltach" yn dilyn pleidlais gan y Cyngor Llawn.

O'r 7 thema a nodwyd yn y strategaeth ddrafft 'Caerdydd Un Blaned', dangosodd ymgynghoriad eang fod y cyhoedd, pobl ifanc a busnesau i gyd o'r farn mai lleihau'r galw am ynni a chynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy oedd y maes pwysicaf i ganolbwyntio arno. Roedd cefnogaeth eang hefyd i fentrau allweddol eraill yn yr Argyfwng Hinsawdd sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth, seilwaith gwyrdd a bwyd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Hyd yn oed wrth i ni wella o effaith ddigamsyniol Covid-19, mae un peth yn parhau'n eglur - newid yn yr hinsawdd yw her fyd-eang ddiffiniol ein cenhedlaeth ni. Mae'r Cyngor yn ymateb i'r her honno, gyda chyllid wedi'i sicrhau ar gyfer prosiectau mawr fel y rhwydwaith gwres ardal carbon isel, mwy o'n fflyd o gerbydau'n trosglwyddo i drydan, a chynlluniau ar y trywydd iawn ar gyfer dechrau rhaglen plannu coed torfol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26532.html