Back
Creu Caerdydd newydd, werddach, gryfach a thecach wrth adfer o COVID

14/05/21

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cyfres o gynigion a gynlluniwyd i hybu economi Caerdydd a gwella bywydau trigolion wrth i Gymru ddod allan o'r cyfnod cloi.

Mae'r strategaeth ar gyfer adfer ac adfywio'r ddinas ar ôl COVID-19 yn defnyddio adroddiad a luniwyd ar gyfer y Cyngor gan arbenigwr blaenllaw ar ddinasoedd a pholisïau rheoli trefol.

Mae awdur yr adroddiad, Dr Tim Williams, wedi gweithio ledled y byd ers 20 mlynedd gan helpu dinasoedd fel Llundain a Sydney i ddatblygu strategaethau trefol. Comisiynwyd ei adroddiad - Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19 - gan y Cyngor i herio ei feddylfryd ei hun, ac i weithredu fel cyfaill beirniadol annibynnol.

Ar ôl derbyn adroddiad Dr Williams, mae'r Cyngor wedi llunio pedwar adroddiad ei hun, sy'n cael eu cyhoeddi heddiw ac sy'n amlinellu sut y bydd Cyngor Caerdydd yn gweithio tuag at gyflawni strategaeth adfer ac adfywio ar gyfer y ddinas a fydd yn:

  • Ail-lunio canol y ddinas, gan greu lle bywiog a chroesawgar i bawb sy'n ymweld ac yn gweithio yno;
  • Helpu i greu swyddi a phrentisiaethau newydd, gan roi hwb i gyfleoedd cyflogaeth;
  • Cyflawni adferiad 'Cenedl Un Blaned' sy'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd; a bydd yn
  • Gweithio tuag at sicrhau gwell canlyniadau i blant - yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig - fel rhan o adferiad 'sy'n dda i blant'.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried yr adroddiadau yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 20 Mai. Os cytunir ar yr adroddiadau hyn, bydd y Cyngor yn dechrau trafod â thrigolion a rhanddeiliaid y ddinas dros yr haf i geisio eu barn ar y cynigion.

Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae pandemig Covid-19 wedi cyflwyno'r her fwyaf i wasanaethau cyhoeddus ac i fywyd y ddinas mewn cenhedlaeth.  Yn ystod yr argyfwng mae'r Cyngor hwn wedi chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol, yn enwedig i drigolion mwyaf agored i niwed y ddinas.

"Ar ddechrau'r argyfwng daethom â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat ynghyd i arwain ymateb dinas-gyfan llwyddiannus i'r pandemig. Nawr mae'n bwysig ein bod yn parhau â'r gwaith da, gan lunio dyfodol Caerdydd ochr yn ochr â'r partneriaid hynny a thrigolion y ddinas wrth i ni geisio ailagor yn ddiogel. Rydym i gyd yn gobeithio mai'r cyfnod cloi hwn fydd yr olaf, ond wrth i'r ddinas ddod allan o'r pandemig mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau adferiad buan sy'n diogelu swyddi a bywoliaeth pobl.

"Mae Covid wedi cyflwyno heriau, a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae'n debygol y bydd yna effeithiau economaidd a chymdeithasol hirdymor, ond bydd cyfleoedd hefyd i ailystyried y ffordd rydym am i'n dinas dyfu ac am y ffordd rydym am fyw ein bywydau mewn byd ar ôl Covid.

"Rydym eisoes wedi gweld tueddiadau, a oedd yn dod i'r amlwg cyn Covid, yn cyflymu - newidiadau i'r ffordd rydym am fyw, gweithio, siopa a threulio ein hamser hamdden. Wrth symud ymlaen bydd cyfleoedd i newid y ffordd rydym yn gweithio, i wneud bywyd yn fwy lleol, i leihau tagfeydd, i gymryd camau i lanhau'r aer a anadlwn ac i wella'r amgylchedd.

"Mae'r Cyngor hwn yn benderfynol o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'w holl drigolion. Rydyn ni wedi llunio cynlluniau a fydd, yn ein barn ni, yn helpu Caerdydd i adfer o'r pandemig, cynlluniau a all fod o fudd i bawb sy'n byw ac yn gweithio yma. Hoffwn ddechrau sgwrs Uchelgais Prifddinas newydd gyda dinasyddion a rhanddeiliaid y ddinas ar sut y gallwn lunio ac arwain y gwaith o adfer ac adfywio prifddinas Cymru. Rydyn ni am adeiladu Caerdydd newydd, dinas sy'n gweithio i bawb sy'n byw ynddi, ac sy'n gweithio i Gymru. Dinas a fydd yn parhau i dyfu a ffynnu yn yr un modd â thros yr 20 mlynedd diwethaf. Dinas wych i fyw ynddi ac un sy'n gallu parhau i bweru llwyddiant economaidd Cymru."

Dywedodd Dr Williams: "Ymunodd Caerdydd â'r argyfwng byd-eang hwn mewn cyflwr da a gall ddod allan ohono hyd yn oed yn gryfach gyda'r ysbryd, y strategaeth, y cydweithrediadau a'r arloesedd cywir. Wrth wneud hynny, gall ddarparu hyd yn oed mwy o fuddion i'w cymuned ei hun a chymuned y Ddinas-ranbarth.

"Mae cyfle i Gaerdydd, wedi'i symbylu gan Covid-19, ddod yn batrwm ar gyfer dinasoedd eraill o'i maint. Gan adeiladu ar ei chryfderau sefydledig a pharhaus, yr uchelgais sydd ganddi i lwyddo, sgiliau a dychymyg ei phobl a'r arweinyddiaeth y mae eisoes wedi'i dangos, nid yn unig y bydd Caerdydd yn adfer i'w sefyllfa cyn y pandemig, does dim amheuaeth am hynny, ond bydd yn hi'n dod yn ôl yn gryfach wrth i'r Cyngor ailgychwyn yr hyn y gall ei wneud ond hefyd yn ailfeddwl beth sydd angen iddo ei wneud."

Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi dechrau mynd i'r afael â'r adferiad ac wedi rhoi cyfres o gamau ar waith i agor y ddinas yn ddiogel wrth i gyfyngiadau'r cyfnod cloi gael eu llacio.

Mae'r cynlluniau adfer uniongyrchol hynny i ailagor y ddinas yn ddiogel tra'n diogelu bywydau, swyddi a busnesau yn cynnwys:

  • Gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gyflwyno'r rhaglenni brechu yn barhaus;
  • Parhau i ddarparu'r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu er mwyn lleihau trosglwyddo a lledaenu Covid-19;
  • Monitro ac ymateb i unrhyw amrywiolion o Covid sy'n peri pryder;
  • Hwyluso'r gwaith o gyflwyno digwyddiadau prawf yn y ddinas;
  • Rhoi caniatâd i'r sector lletygarwch ddefnyddio gofod stryd ychwanegol er mwyn gweithredu yn yr awyr agored;
  • Cadw tiroedd y castell ar agor fel sgwâr cyhoeddus;
  • Datblygu cynlluniau ar gyfer 'Haf o Wenu', gŵyl i bob plentyn fydd yn cael ei chynnal yn y ddinas drwy gydol yr haf, ochr yn ochr â chyfleoedd i'r plant hynny sydd wedi bod dan yr anfantais fwyaf yn ystod y cyfyngiadau symud, ddal i fyny ag addysg;
  • Datblygu cynllun cymudo gyda busnesau canol y ddinas i annog gweithwyr i ddychwelyd mewn ffordd ddiogel a rheoledig;
  • Defnyddio swyddogion rheoli yng nghanol y ddinas i helpu ymwelwyr a busnesau i ddeall a dilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol.

 

Gan edrych tuag at yr adferiad tymor hwy mae'r Cyngor wedi creu 6 datganiad cenhadaeth a blaenoriaeth y mae am ymgynghori arnynt.

Y rhain yw:

  • Ail-lunio canol y ddinas
  • Dinas i bawb
  • Dinas o Bentrefi
  • Adfywio sy'n cael ei arwain gan ddiwylliant a chwaraeon
  • Dinas Dechnolegol
  • Adferiad Un Blaned

 

Cenhadaeth 1: Ail-lunio canol y ddinas.

Mae canol dinasoedd yn wynebu heriau newydd mewn byd ar ôl Covid a gallai'r newidiadau a welwyd yn y ffordd rydym yn gweithio, siopa a threulio'n hamser hamdden oll gael effaith fawr ar ein dinasoedd. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio i ddiogelu swyddi yn ein sectorau lletygarwch, manwerthu a swyddfeydd drwy ddenu pobl yn ôl i ganol y ddinas. Er y bydd datblygiadau adeiladu a gwella seilwaith y ddinas yn chwarae rhan bwysig o ran darparu swyddi a chyfleoedd gwaith, bydd angen cymryd camau i ymateb i economi'r nos, gwella'r cynnig diwylliannol, bywiogi mannau cyhoeddus a gwella trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau teithio llesol i greu Caerdydd unigryw y mae pobl am ymweld â hi a bod yn rhan ohoni.

Blaenoriaethau

Cyflymu'r broses o gwblhau'r ardal fusnes ganolog i gefnogi twf parhaus mewn swyddi.

Cefnogi busnesau presennol i dyfu a dod yn fwy cynhyrchiol.

Gwella sgwariau cyhoeddus a mannau gwyrdd sy'n bodoli eisoes, sefydlu rhai newydd ac agor glan yr afon a Chwr y Gamlas.

Rhoi diwylliant a chelfyddydau wrth wraidd yr adferiad.

Cymryd rôl fwy uniongyrchol wrth reoli dyfodol canol y ddinas i adlewyrchu anghenion trigolion, gweithwyr, busnesau ac ymwelwyr.

Creu canol dinas sy'n ddiogel, glân, groesawgar a deniadol i bobl o bob oed a chefndir.

Creu canol dinas sy'n gwbl hygyrch i bob oedran a phobl ag anableddau.

 

Cenhadaeth 2:Dinas i bawb

Mae'r pandemig wedi ehangu anghydraddoldebau, mae diweithdra wedi dyblu ac mae wedi effeithio'n fwy andwyol ar yr ifanc, yr henoed, menywod a'r rhai o gefndir BAME. Mae profiadau bywyd pobl ifanc wedi bod yn gyfyngedig drwy gydol y cyfnod cloi ac mae angen cymorth penodol. Bydd angen i ddinasoedd fynd i'r afael â'r ffactorau hirdymor sy'n arwain at anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys mynediad at swyddi da, tai ac addysg, y mae trigolion yn eu hwynebu yn ein cymunedau mwy difreintiedig.

Blaenoriaethau

Defnyddio rôl y Cyngor fel sefydliad angori economaidd i sbarduno adferiad economaidd lleol.

Sicrhau bod pob cymuned yn elwa ar raglenni adfywio a datblygu.

Rhoi pobl ifanc a phlant wrth wraidd unrhyw ymateb gan sicrhau adferiad sy'n dda i blant.

Sicrhau bod y modelau cymorth newydd sydd ar waith ar gyfer trigolion mwyaf agored i niwed y ddinas yn cael eu cynnal ar ôl y pandemig.

Mynd i'r afael â ffactorau hirdymor sy'n arwain at anghydraddoldebau iechyd drwy fuddsoddi mewn tai, addysg a chymunedau lleol.

Sicrhau bod Caerdydd yn ddinas lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ynddi ac yn cael croeso.

 

Cenhadaeth 3: Dinas o bentrefi

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ein cymunedau lleol, canolfannau cymdogaeth a mannau gwyrdd. Gyda'r mwyafrif yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod cloi gwelsom newidiadau mawr i'r ffordd yr oeddem yn teithio, siopa a defnyddio'r mannau o'n hamgylch. Gyda gweithio gartref yn debygol o barhau ar ryw ffurf neu'i gilydd, mae cyfleoedd wedi ymddangos a all gryfhau ein canolfannau lleol yn yr hirdymor. Mae'r cysyniad 'Dinas o Bentrefi' yn seiliedig ar y syniad o'r 'ddinas 15 munud' lle mae gwasanaethau y gallai fod eu hangen arnoch, o barciau i siopau, o fewn 15 munud i'ch cartref. Mae cyfle i wneud y rhwydwaith presennol o ganolfannau ardal leol llwyddiannus hyd yn oed yn fwy bywiog, prysur a pherthnasol i gymunedau lleol, ac i fath newydd o weithiwr ystwyth a all rannu eu diwrnodau gwaith rhwng y cartref a swyddfa yn y ddinas. Mae'r manteision posibl, o lai o dagfeydd i adfywio cymunedol, yn glir i'w gweld.

Blaenoriaethau

Creu cymunedau lleol diogel a hygyrch i bawb, yn enwedig pobl iau a hŷn

Sicrhau newid sylweddol yn narpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ac opsiynau teithio llesol.

Buddsoddi mewn adnewyddu ystadau, gwella ystadau tai presennol ac ardaloedd cyfagos.

Rheoli a churadu canolfannau busnes lleol, gan greu cymdogaethau lleol bywiog ac amlwg.

Cyflawni dull 'ardal leol' o ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus gan gydleoli timau gwasanaethau cyhoeddus mewn rhwydwaith o Hybiau Cymunedol a Lles ochr yn ochr â rôl gryfach i ysgolion lleol ym mywyd y gymuned.

Arddangos a dathlu amrywiaeth a diwylliant gwahanol rannau o'n dinas.

Cyflwyno rhaglen gydgysylltiedig o weithgarwch adfywio.

 

Cenhadaeth 4: Adfywio sy'n cael ei arwain gan ddiwylliant a chwaraeon

Mae'r pandemig wedi cynyddu pwysigrwydd y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon i Gaerdydd, ac mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan enfawr yn y gwaith o ddenu busnesau ac ymwelwyr i Gaerdydd yn y gorffennol yn ogystal â gwneud ein dinas yn lle gwych i fyw ynddi. Mae diwylliant, creadigrwydd a chwaraeon yn llywio dinasoedd fel lleoedd i fyw ynddynt ac ymweld â nhw. Mae sicrhau bod ein hasedau creadigol a diwylliannol yn cael yr effaith fwyaf posibl yn un o'r ffyrdd allweddol y gallwn wahaniaethu Caerdydd oddi wrth ddinasoedd eraill.   Bydd profiadau lleol unigryw a dilys yn dod yn bwysicach wrth ddenu twristiaeth ddomestig a rhyngwladol yn y dyfodol ac mae diwylliant yn cael ei gydnabod fwyfwy fel ased lles allweddol i drigolion unrhyw ddinas. Wrth symud ymlaen mae angen i'r ddinas ganiatáu a darparu lle ar gyfer gweithgareddau creadigol, diwylliannol a chwaraeon.

Blaenoriaethau

Rhoi diwylliant wrth wraidd ailddatblygu, gan greu lleoedd a mannau y mae pobl am fod ynddynt ac o'u cwmpas.

Buddsoddi yn ein seilwaith creadigol, o gyfathrebu digidol, i weithdai cost isel i artistiaid, lleoedd i wneuthurwyr a lleoliadau ar lawr gwlad.

Cynnal gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd fel rhan o strategaeth digwyddiadau diwylliannol newydd a fydd yn cefnogi sector digwyddiadau brodorol.

Adeiladu arena 15,000 sedd newydd ym Mae Caerdydd a chyflwyno rhaglen gymorth cerddoriaeth lawr gwlad gysylltiedig.

Cefnogi buddsoddiad i annog cyfranogiad mewn chwaraeon ar bob lefel.

Adeiladu felodrom newydd a chyfleuster beicio a rhedeg awyr agored yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

 

Cenhadaeth 5: Dinas Dechnolegol

Mae dinasoedd llwyddiannus heddiw yn cael eu sbarduno gan sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd y bobl a'r busnesau sy'n byw ac yn gweithredu yno. Mae'r pandemig wedi dangos yr effaith y gall buddsoddi mewn technoleg ei chael i wella ein bywydau a chefnogi twf busnes.  Roedd y ffaith bod technoleg wedi galluogi cymaint o bobl i barhau i weithio gartref yn ystod y cyfnod cloi wedi cael budd economaidd enfawr, gan arbed swyddi a bywoliaethau. Wrth i Gaerdydd ddod allan o'r pandemig mae angen i ni dyfu ein heconomi wybodaeth gan greu mwy o swyddi gwell.  Mae angen i ni gadw pobl dalentog a darparu sylfaen a rhwydwaith iddynt a all helpu i wireddu eu potensial.  Erbyn hyn mae cyfleoedd i ddinasoedd llai, gydag ansawdd bywyd uwch, ddenu busnes i ffwrdd o'r dinasoedd mawrion sydd ag ansawdd bywyd ac amgylchedd gwaeth.

Blaenoriaethau

Sefydlu canol dinas Caerdydd a Bae Caerdydd fel 'Canolfan Dechnoleg' i Gymru, gan ddenu, cadw a datblygu busnesau'r dyfodol.

Cefnogi eco-system dechnolegol ‘busnes newydd i gynnig cyhoeddus cychwynnol (IPO)', gan greu rhwydwaith o leoedd ar gyfer pob cam o ddatblygu busnes, a rhaglenni o gymorth busnes a chymorth ariannol i fusnesau sydd â phartneriaid yn y sector preifat.

Cryfhau'r berthynas rhwng Caerdydd a Phrifysgolion sy'n canolbwyntio ar arian cyhoeddus ac ymchwil datblygu economaidd i'r ddinas.

Buddsoddi yn y seilwaith i gefnogi busnesau technoleg o bob lliw a llun.

Gwneud technoleg yn rhan annatod o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

 

Cenhadaeth 6: Adferiad Un Blaned

Ers y pandemig mae mwy a mwy o ddinasoedd ledled y byd yn croesawu cymunedau di-garbon, gwyrddach, glanach a mwy deniadol i fyw ynddynt. Daeth Covid â phwysigrwydd ein parciau a'n mannau gwyrdd i'r amlwg ac roedd y gostyngiad mewn allyriadau traffig a thagfeydd yn annog llawer i roi cynnig ar feicio yn y ddinas am y tro cyntaf. Wrth i Gaerdydd ddod allan o'r argyfwng mae angen defnyddio'r gwersi a ddysgwyd, a'r cyflymder a'r gallu i newid y ffordd yr oeddwn yn gwneud pethau yn sgil Covid, er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sef y risg fwyaf i bob un ohonom o hyd. Mae dinasoedd blaengar yn manteisio ar y cyfle i ddatgarboneiddio, datblygu cynlluniau aer glân, trawsnewid y ffordd y mae pobl yn symud o amgylch dinasoedd tra'n lleihau'r ddibyniaeth ar geir preifat. Maent hefyd yn sefydlu rhaglenni buddsoddi mewn cynlluniau economi werdd. Mae strategaeth Caerdydd Un Blaned yn nodi sut y bydd Caerdydd yn ymdrechu i fod yn Ddinas Carbon Niwtral erbyn 2030 - gan greu swyddi 'gwyrdd' newydd a chyfleoedd economaidd tra'n hybu gwell iechyd a lles, wrth i ni geisio chwarae ein rhan i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd.

Blaenoriaethau

Cyflawni'r strategaeth Un Blaned - gyda'r nod o ddod yn ddinas ddi-garbon erbyn 2030.

Defnyddio potensial marchnad yr Adferiad Gwyrdd i greu swyddi lleol.

Buddsoddi mewn cartrefi a chymdogaethau cynaliadwy sy'n lleihau ôl troed carbon a chostau ynni i'n cymunedau.

Datblygu seilwaith i wneud Caerdydd y ddinas fwyaf addas i gerbydau trydan yn y DU.

Sicrhau bod y ddinas yn cael ei pharatoi a'i diogelu i'r graddau gorau posibl rhag llifogydd.

Llunio polisïau a chanllawiau cynllunio i hwyluso a gwneud y mwyaf o ddatblygiadau gwydn, ynni isel, sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon ledled y ddinas. Arwain drwy esiampl yn ein datblygiadau a'n prosiectau ein hunain (ee: tua 2000 o gartrefi cyngor newydd; arena 15,000 o seddi; ehangu gwasanaeth nextbike i 2000 o feiciau ar draws y ddinas; darparu rhwydwaith gwres lleol; sefydlu fferm goed yn y ddinas i gynyddu gorchudd coed; anelu at wneud holl geir fflyd a cherbydau nwyddau mawr (LGV) y Cyngor yn gerbydau ddi-allyriadau erbyn 2025; ôl-osod cartrefi ar raddfa eang i'w gwneud yn effeithlon o ran ynni; gweithio gyda Bws Caerdydd a chwmnïau bysus eraill i wneud fflyd y ddinas yn werddach; buddsoddi mewn fferm solar 9MW newydd; hyrwyddo bwyd iach, lleol, carbon isel drwy strategaeth Fwyd Caerdydd).

Bydd rhaglen o ymgysylltu â'r cyhoedd, rhanddeiliaid y ddinas a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei chynnal dros yr haf, a bydd y canlyniadau'n cael eu hadrodd yn ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd i'w hystyried yn yr hydref.

Mae gan Dr Williams dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithioar y lefel uchaf yn y sectorau preifat a chyhoeddus ym maes tai a datblygu trefol. Bu'n Brif Swyddog Gweithredol prosiect Thames Gateway yn Nwyrain Llundain ac fe'i hystyrir yn arbenigwr cynllunio blaenllaw ym maes tai yn Awstralia a'r DU, lle cynghorodd bum gweinidog tai y DU.

I ddarllen adroddiad llawn Cyngor Caerdydd ar greu Caerdydd Werddach, Tecach a Chryfach, ac adroddiad Dr Tim Williams Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19  cliciwch yma.