13/5/2121
Y mis hwn, bydd rhai o ofalwyr maeth Caerdydd yn rhannu eu straeon i nodi Pythefnos Cenedlaethol Gofal Maeth, yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth a recriwtio flynyddol ledled y DU a gefnogir gan Gofal Maeth Caerdydd.
Mae'r digwyddiad sy'n parhau tan 23 Mai yn dathlu ymroddiad gofalwyr maeth a'r effaith gadarnhaol a gânt ar ein cymunedau lleol.
Gan mai ‘#Pamrydymyngofalu' yw'r thema eleni, mae rhai o ofalwyr maeth mwyaf ymroddedig Caerdydd yn rhannu eu profiadau ar ofal maeth ac yn apelio ar fwy o bobl i ystyried ymgymryd â'r rôl.
Mae Kevin Powell wedi bod yn ofalwr maeth ers 15 mlynedd, ac mae 12 ohonynt wedi bod gyda Gofal Maeth Caerdydd.
Dywedodd Kevin: "Mae bod yn ofalwr maeth yn bwysig i mi oherwydd fy mod am roi'r hyder i bobl ifanc mewn angen ffynnu fel oedolion."
"Mae'r Gefnogaeth gan Gaerdydd heb ei hail a phan fyddwch yn maethu ar ran Cyngor Caerdydd cewch eich cydnabod a'ch trin fel gweithiwr allweddol. Mae nifer o gyfleoedd a manteision hyfforddi, hyd yn oed ar ôl 15 mlynedd rwy'n dal i ddysgu ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd meddwl a chymorth cyntaf plant.
"Gallaf godi'r ffôn ac mae gen i gefnogaeth ar unwaith. Am y rheswm hwnnw, fyddwn i ddim yn gadael, byth."
Kevin Powell
Dechreuodd Marion ac Alastair Pinkney eu taith faethu ym mis Rhagfyr 2019 ar ôl rhedeg cwmni llogi partïon llwyddiannus.
Pan ofynnwyd iddynt am eu profiad, dywedon nhw: "Mae gofal maeth wedi dod yn yrfa i'r ddau ohonon ni ac rydyn ni'n teimlo'n wirioneddol fod popeth yn ein bywydau wedi arwain at y pwynt hwn. Mae pob bywyd yn bwysig ac mae'r boddhad a'r llawenydd rydyn ni wedi'u profi o gefnogi person ifanc pan fydd angen arnyn nhw fwyaf, wedi bod yn wych. Roedd dewis maethu gyda Chyngor Caerdydd yn teimlo fel y dewis amlwg a byddwn yn parhau i helpu i newid Caerdydd, un bywyd ar y tro."
Marion and Alastair
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anodd i lawer ac er bod llawer ohonom wedi cael teulu a ffrindiau yno i'n cefnogi yn ystod yr adeg hon, mae angen y gefnogaeth honno ar rai plant a phobl ifanc ledled Caerdydd nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen.
"Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â nifer o ofalwyr maeth yn y ddinas, rhai ohonyn nhw yn bobl sy'n newydd i'r rôl a rhai sydd wedi bod yn maethu ers blynyddoedd. Mae wedi bod yn bleser llwyr gennyf glywed am eu profiadau ac mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i ddangos ein diolchgarwch i'r holl ofalwyr maeth hynny sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a phobl ifanc. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i bob un ohonynt, maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel bob dydd."
Ychwanegodd y Cynghorydd Hinchey: "Mae Gofal Maeth Caerdydd wedi parhau i recriwtio gofalwyr maeth drwy gydol y pandemig ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am faethu ac sy'n meddwl y gall ddefnyddio ei sgiliau, ei wybodaeth a'i arbenigedd i helpu i gyfoethogi a gwella bywydau plant a phobl ifanc Caerdydd. Gall hyn fod naill ai ar gyfer seibiannau byr, gofal seibiant neu ofal hirdymor."
Yn ddweddarach y mis hwn, bydd rhai o adeiladau mwyaf eiconig Caerdydd yn cael eu goleuo'n oren, lliw nodweddiadol Gofal Maeth Caerdydd. Ddydd Iau 20 Mai bydd Neuadd y Ddinas, Canolfan Mileniwm Cymru a Morglawdd Bae Caerdydd yn disgleirio'n lliwgar i ddathlu gwaith gofalwyr maeth. Rydym hefyd yn annogeraill i ddangos cefnogaethdrwy roi lamp yn eu ffenestr ddydd Iau 20 Mai ac ymuno i oleuo'r wlad yn oren.
P'un a ydych yn briod, yn byw gyda phartner, yn berson sengl, LHDT+ neu'n anabl, mae angen gofalwyr maeth ar Gyngor Caerdydd, sydd mor egnïol ac amrywiol â'r ddinas rydym yn byw ynddi
Mae Gofal Maeth Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wobrau a buddion hael i sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi, yn ariannol, yn broffesiynol ac yn emosiynol. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ewch iwww.gofalmaethcaerdydd.co.ukneu ffoniwch 029 2087 3797.
Ewch i sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a rhannu ein cynnwys i helpu mwy o bobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a'r gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc.
Ymunwch â'r sgwrs a defnyddiwch yr hashnod #PGM2021 #PamRydymYnGofalu