Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: Etholiadau'r Senedd aComisiynydd Heddlu a Throseddu, cadw pleidleiswyr yn ddiogel; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Etholiadau'r Senedd a CHTh: Cadw pleidleiswyr yn ddiogel
Ddydd Iau, bydd trigolion Caerdydd yn pleidleisio i ddewis pwy fydd yn eu cynrychioli yn y Senedd a phwy fydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer yr ardal heddlu leol hon.
Mae gwaith cynllunio wedi bod ar y gweill ers misoedd i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn fannau diogel i bleidleisio ar 6 Mai. Gall preswylwyr sydd wedi dewis bwrw eu pleidlais mewn person ddisgwyl gweld llawer o'r mesurau yr ydym i gyd wedi dod yn gyfarwydd â hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn siopau a chyfleusterau dan do eraill, megis defnyddio hylif diheintio dwylo, marciau llawr i helpu gydag ymbellhau cymdeithasol a'r angen i wisgo gorchudd wyneb, oni bai eich bod wedi'ch eithrio.
Efallai y bydd angen i bleidleiswyr giwio i fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio, gan y bydd terfyn ar nifer y bobl a ganiateir yn yr adeilad ar un adeg. Bydd systemau unffordd ar waith mewn llawer o'r gorsafoedd a gofynnir i bleidleiswyr gydymffurfio â'r arwyddion sydd mewn lle i helpu pobl i fynd i mewn ac allan o'r adeilad yn ddiogel.
Efallai y bydd preswylwyr am ddod â'u pensil eu hunain i farcio eu papur pleidleisio, er y bydd cyflenwadau hefyd ar gael yn yr orsaf bleidleisio.
Bydd staff yn yr orsaf bleidleisio yn glanhau'n rheolaidd drwy gydol y dydd i helpu i gadw pleidleiswyr yn ddiogel a helpu i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19.
Dywedodd Paul Orders, Swyddog Canlyniadau Lleol Caerdydd: "Bydd etholiadau'r wythnos hon yn wahanol i unrhyw rai eraill o'r blaen ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed i greu amgylchedd diogel i bleidleiswyr a staff yn ein gorsafoedd pleidleisio ledled y ddinas. Bydd mesurau diogelu amrywiol ar waith ar y diwrnod, trefniadau tebyg i'r rhai sydd wedi dod yn rhan o'n harferion bob dydd ers dechrau'r pandemig."
Etholiad dydd Iau fydd y tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys allu pleidleisio dros Aelodau o'r Senedd. Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.
Ni ddylai unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws neu y gofynnwyd iddo hunanynysu fynychu gorsaf bleidleisio.
Mewn rhai amgylchiadau, os oes gennych argyfwng sy'n golygu na allwch bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am ddirprwy brys. Rhaid i hyn fod yn rhywbeth nad oeddech yn ymwybodol ohono cyn dyddiad cau arferol y bleidlais drwy ddirprwy ac mae'n cynnwys yr angen i hunanynysu oherwydd COVID-19.
Mae'r ffurflen y bydd angen i chi ei llenwi yn dibynnu ar eich rheswm dros fod angen pleidlais drwy ddirprwy. Gallwch ddod o hyd iddynt yn:
Gellir gwneud ceisiadau Dirprwy Brys hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.
I gael rhagor o wybodaeth am etholiadau dydd Iau gan gynnwys manylion ymgeiswyr, gorsafoedd pleidleisio a mwy, ewch i:
www.caerdydd.gov.uk/etholiadau
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 04 Mai
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 398,976 (Dos 1: 291,240 Dos 2: 107,713)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (22 Ebrill - 28 Ebrill)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
2 Mai 2021, 09:00
Achosion: 44
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 12.0 (Cymru: 10.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,441
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 937.9
Cyfran bositif: 1.3% (Cymru: 1.1% cyfran bositif)