30/04/21
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; terfynau cyflymder newydd ar yr A48 a manylion cronfa argyfwng i gefnogi aelwydydd sy'n profi caledi.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 30 Ebrill
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:384,139(Dos 1:281,641Dos 2:102,477)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (19 Ebrill -25Ebrill)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
29Ebrill 2021, 09:00
Achosion:40
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth:10.9(Cymru: 11.3achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi:3,271
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth:891.5
Cyfran bositif:1.2(Cymru:1.3cyfran bositif)
Terfynau cyflymder newydd wedi'u gosod ar Rodfa'r Gorllewin (A48)
Mae terfynau cyflymder newydd ar waith ar Rodfa'r Gorllewin (A48) i wella diogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd yr aer ar un o ffyrdd prysuraf Caerdydd.
Mae terfyn 30 mya - wedi'i osod o'r blaen fel 40 mya - bellach ar waith at Rodfa'r Gorllewin i'r ddau gyfeiriad rhwng Cylchfan Trelái a Chyfnewidfa Gabalfa.
Mae terfynau cyflymder ar y darn o Rodfa sy'n weddill hefyd wedi'u haddasu, gyda'r newidiadau canlynol ar waith:
Mae'r holl arwyddion terfyn cyflymder newydd wedi'u gosod ar Rodfa'r Gorllewin (A48) ac mae'r terfynau cyflymder newydd yn fyw a gall yr heddlu eu gorfodi'n gyfreithiol.
Cronfa argyfwng yn cefnogi aelwydydd sy'n profi caledi
Mae rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y ddinas sydd wedi cael eu heffeithio'n andwyol gan y pandemig wedi cael eu cefnogi gan y Gronfa Argyfwng Disgresiynol Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd.
Lansiwyd y gronfa ym mis Mawrth i helpu aelwydydd yn y ddinas sy'n profi caledi difrifol, pan fydd pob opsiwn arall o gymorth wedi'i ddisbyddu.
Dechreuwyd y gronfa gyda rhodd o £10,000 gan yr arweinydd busnes rhyngwladol, Alan Peterson, ac mae wedi parhau i dderbyn rhoddion hael gan ddod â'r cyfanswm i fwy na £15,000, sydd wedi galluogi'r gronfa i gefnogi 29 o aelwydydd dros y ddau fis diwethaf.
Mae mwy na £5,500 wedi'i ddyfarnu i unigolion a theuluoedd i brynu hanfodion fel peiriannau golchi, gwelyau a matresi, poptai, rhewgelloedd, oergelloedd, talebau tanwydd a lles hanfodol i famau newydd fel llaeth, poteli a dillad babanod.
Caiff y rhai sy'n gwneud cais am y gronfa eu cefnogi gan Dîm Cyngor Ariannol y Cyngor, a fydd yn trafod amgylchiadau'r cartref ac ystyried ffyrdd o wneud y mwyaf o'u hincwm drwy gael gafael ar grantiau, gostyngiadau a budd-daliadau a helpu i ddelio ag unrhyw ddyledion sydd ganddynt.
I gyfrannu at y Gronfa Argyfwng Disgresiynol Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd, ewch ihttps://www.volunteercardiff.co.uk/emergency-fund/
Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â'n tîm Cyngor Ariannol a all edrych ar ystod o gymorth sydd ar gael i helpu. Ffoniwch 029 20 87 1071 neu ewch iwww.cyngorariannolcaerdydd.co.uk