Back
Terfynau cyflymder newydd wedi’u gosod ar Rodfa’r Gorllewin (A48)


 30/04/21

Mae terfynau cyflymder newydd ar waith ar Rodfa'r Gorllewin (A48) i wella diogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd yr aer ar un o ffyrdd prysuraf Caerdydd.

 

Mae terfyn 30 mya - wedi'i osod o'r blaen fel 40 mya - bellach ar waith at Rodfa'r Gorllewin i'r ddau gyfeiriad rhwng Cylchfan Trelái a Chyfnewidfa Gabalfa.

 

Mae terfynau cyflymder ar y darn o Rodfa sy'n weddill hefyd wedi'u haddasu, gyda'r newidiadau canlynol ar waith:

 

  • Gall gyrwyr sy'n teithio tua'r dwyrain o Gylchfan Gabalfa tuag at Gasnewydd gynyddu eu cyflymder o 30 mya hyd at 50 mya hyd nes iddynt gyrraedd Cylchfan Llanedern. O'r blaen, roedd y terfyn cyflymder ar y darn hwn o'r ffordd wedi'i osod ar 70 mya. Mae'r terfyn cyflymder i ddwyrain Cylchfan Llanedern yn parhau'n 50 mya, yn cynyddu i 70 mya wrth i chi nesáu at yr A48(M) a'r M4.

 

  • Gall y rhai sy'n teithio tua'r gorllewin o Gylchfan Llanedern tuag at Gyfnewidfa Gabalfa deithio ar 50 mya, hyd nes iddynt gyrraedd Ysbyty Athrofaol Cymru lle y mae'r terfyn cyflymder yn lleihau i 40 mya ac mae hynny'n parhau heb ei newid. O Gylchfan Gabalfa, bydd gyrwyr wedyn yn mynd i mewn i'r terfyn 30 mya nes iddynt gyrraedd Cylchfan Trelái.

 

Mae'r holl arwyddion terfyn cyflymder newydd wedi'u gosod ar Rodfa'r Gorllewin (A48) ac mae'r terfynau cyflymder newydd yn fyw a gall yr heddlu eu gorfodi'n gyfreithiol.