Back
Tiroedd Castell Caerdydd yn ailagor fel mannau cyhoeddus am ddim
Mae tiroedd Castell Caerdydd wedi ailagor heddiw (dydd Llun 12 Ebrill), fel man cyhoeddus â mynediad am ddim.

Bydd gwasanaeth caffi tecawê ar gael ar y tir ac mae croeso i ymwelwyr ddod â phicnic ac ymlacio yn erbyn tirnod mwyaf eiconig Caerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae tŵr y castell a’r prif dŷ yn dal ar gau o dan reoliadau’r Coronafeirws, ond mae tîm y Castell yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i'r tiroedd, am ddim, i fwynhau rhywfaint o fannau gwyrdd ychwanegol gwerthfawr yng nghanol y ddinas."

Mae croeso i gŵn ond rhaid iddynt fod ar dennyn.  Mae raciau beiciau ar gael ar dir y Castell i ddarparu diogelwch ychwanegol i unrhyw un sy'n beicio i ganol y ddinas.

Oriau agor y Castell yw Lluniau (10am-4pm) a Gwe-Sul (9am - 6pm).

Mae tŵr y castell a'r prif dŷ yn parhau ar gau i ymwelwyr o dan ddeddfwriaeth y Coronafeirws.