Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 7 Ebrill

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a ymgynghoriad ar gynllun talu ac arddangos Rhodfa Lloyd George.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 7 Ebrill

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:284,199(Cyfanswm ddoe: 1,680)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal: 4,326 (Dos 1) 3,787 (Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,174 (Dos 1) 1,804 (Dos 2)
  • 80 a throsodd: 19,115 (Dos 1) 2,850 (Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen: 26,948 (Dos 1) 22,799 (Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol: 9,639 (Dos 1) 7,566 (Dos 2)
  • 75-79: 14,134 (Dos 1) 1,941 (Dos 2)
  • 70-74: 20,431 (Dos 1) 16,314 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,618 (Dos 1) 7,404 (Dos 2)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • 65-69: 17,152 (Dos 1) 784 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 41,925 (Dos 1) 3,844 (Dos 2)
  • 60-64: 13,189 (Dos 1) 3,175 (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (27 Mawrth - 02 Ebrill)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

06 Ebrill 2021, 09:00

 

Achosion: 137

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 37.3 (Cymru: 22.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,032

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,098.9

Cyfran bositif: 3.4% (Cymru: 2.2% cyfran bositif)

 

Ymgynghoriad ar Gynllun Talu ac Arddangos Rhodfa Lloyd George

Mae Cyngor Caerdydd wedi agor ymgynghoriad ar gynllun arfaethedig i gyflwyno parcio talu ac arddangos ar Rodfa Lloyd George, yn Butetown.

Mae'r newid arfaethedig yn golygu cau'r lôn fewnol sy'n mynd tua'r gogledd o Fae Caerdydd i ganol y ddinas, er mwyn creu'r mannau parcio 'trwyn i gynffon' newydd. Byddai ochr bresennol Rhodfa Lloyd George tua'r de, o ganol y ddinas i Fae Caerdydd, yn cael ei hagor i draffig ei defnyddio i'r ddau gyfeiriad.

Byddai mesurau tawelu traffig yn cael eu cyflwyno ar y lôn tua'r gogledd a fyddai'n cael ei defnyddio i gael mynediad i'r mannau parcio newydd. Byddai hyn yn rhwystro pobl rhag gyrru'n rhy gyflym, ac yn annog gyrwyr i beidio â'i defnyddio fel llwybr drwodd i ganol y ddinas.

Byddai gan y cynllun arfaethedig 92 o fannau Talu ac Arddangos, gyda lle ychwanegol i ryw 14 o gerbydau, ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Byddai newid y ffordd mae'r ffyrdd yn cael eu defnyddio yn creu cyfleuster parcio newydd i ymwelwyr â Bae Caerdydd a chanol y ddinas. Mae Rhodfa Lloyd George fel arfer yn dawel iawn, sy'n gallu arwain at oryrru a gyrru gwrthgymdeithasol arall, a byddai'r newidiadau hefyd yn creu cynllun ffordd addas at yr amgylchedd preswyl."

Byddai bysiau'n parhau i ddefnyddio Rhodfa Lloyd George, gyda safleoedd newydd wedi'u cynnwys yn y dyluniadau. Byddai angen ardal fach o'r llain ganol i greu un o'r safleoedd bws, a byddai gweddill y mannau gwyrdd ar hyd y llwybr yn cael eu cadw. Byddai'r croesfannau i gerddwyr i gyd yn cael eu cadw hefyd, ynghyd â'r cyffyrdd fel y maen nhw ar hyn o bryd.

Byddai'r rhan o'r lôn sy'n mynd tua'r de ar Rodfa Lloyd-George, ac sydd â thraffig dwy-ffordd, yn rhedeg rhwng y cyffyrdd â Stryd Tyndall a Heol Hemingway. Byddai'r parcio arfaethedig ar yr ochr tua'r gogledd yn dechrau wrth gyffordd Ffordd Garthorne.

Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 21 Ebrill 2021. Mae manylion llawn ar gael ar-lein yma  Ymgynghoriadau (cardiff.gov.uk),  a gellir cyflwyno sylwadau drwy e-bostio ProjectauTrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk.