24/03/21
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd a diweddariad ar gasgliadau gwastraff.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 24 Mawrth
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:222,747(Cyfanswm ddoe:3,734)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod ( 13 Mawrth -19Mawrth)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
23Mawrth 2021, 09:00
Achosion: 122
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 33.3 (Cymru:40.5achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi:4,969
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,354.3
Cyfran bositif: 2.5% (Cymru:3.3%cyfran bositif)
Diweddariad ar gasgliadau gwastraff
Erbyn hyn, mae'r newidiadau i'r trefniadau ar gyfer casgliadau gwastraff yn dechrau cael eu mewnosod ac mae bron yr holl wastraff cyffredinol, bagiau gwyrdd a gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar y diwrnod casglu a amserlennir. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae gennym 22 o yrywyr yn absennol oherwydd salwch, ac mae rhai'n hunanwachod, ac o ganlyniad rydym wedi penderfynu dargyfeirio rhai criwiau i ffwrdd o gasgliadau gwastraff yr ardd, sy'n golygu y caiff casgliadau gwastraff yr ardd eu hoedi. Gadewch eich gwastraff gardd allan i'w gasglu a byddwn yn dal i fyny cyn gynted ag y bo modd. Hefyd bu rhywfaint o oedi gyda chasgliadau swmpus a chasgliadau hylendid ac eto gofynnwn eich bod yn gadael y gwastraff hwn allan i'w gasglu.Diolch am eich amynedd ac am ddeall.