Back
Cyngor teithio i gyrraedd Canolfan Frechu Dorfol Bayside yn Grangetown

23/03/21 

Bydd y Ganolfan Frechu Dorfol Bayside newydd a adeiladwyd ar hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn agor ddydd Iau 25 Mawrth, a bydd yn gwasanaethu trigolion sy'n byw yng Nghaerdydd a dwyrain y Fro.

Gofynnir i'r holl breswylwyr sy'n ymweld â'r Ganolfan Frechu Dorfol Bayside newydd gyrraedd 5 munud cyn eu hapwyntiad, ac os ydynt yn teithio mewn car preifat, fe'u cynghorir mai dim ond am y cyfnod sy'n ofynnol ar gyfer eu hapwyntiad y dylent barcio cerbydau yn y maes parcio.

Cau ffyrdd:

Ni fwriedir cau unrhyw ffyrdd o amgylch y ganolfan frechu, ond gellir rhoi gwyriadau bach ar waith os oes angen yn ystod oriau prysur. Bydd staff ar gael ar y safle i gynorthwyo aelodau o'r cyhoedd wrth iddynt gyrraedd y ganolfan frechu. Bydd y maes parcio yng nghanolfan frechu Bayside ar gael i ymwelwyr ei ddefnyddio, ond ni chaniateir parcio ar strydoedd cyfagos nac mewn unrhyw ddatblygiad tai preifat gerllaw, a gellir gorfodi yn yr achos hwn.

Os ydych yn teithio mewn car preifat, mae canolfan frechu Bayside ar Olympian Drive, Grangetown, CF11 0JS.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Mae'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ar gael yn rhwydd i drigolion lleol naill ai drwy gerdded neu feicio. Darperir llwybrau beicio a cherdded dros Ffordd Gyswllt Bae Caerdydd (A4232), sy'n cysylltu Bae Caerdydd â'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol a Ferry Road. Mae Pont y Werin hefyd ar gael i gerddwyr a beicwyr sy'n dod i'r safle o Benarth a dwyrain y Fro, sy'n cysylltu Marina Penarth â Phentref Chwaraeon Rhyngwladol Bae Caerdydd.

Bws

Mae nifer o wasanaethau bws ar gael sy'n mynd a dod o ganolfan frechu Bayside.  Mae'r rhain fel a ganlyn:

Gwasanaethau Bws Caerdydd:

  • Gwasanaeth 9 (Ysbyty'r Mynydd Bychan/Heol yr Eglwys Newydd/Heol y Crwys/Heol y Plwca/canol y ddinas a Grangetown
  • Gwasanaeth 13 (y Ddrôp/Trelái/Treganna/Butetown)

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:  Bws Caerdydd

Gwasanaethau New Adventure Travel (NAT):

  • Gwasanaeth 89a (o Gaerdydd i Ddinas Powys drwy Benarth a Llandochau)
  • Gwasanaeth 89b (o Gaerdydd i Landochau drwy Benarth)
  • Gwasanaeth 304 (Llanilltud Fawr i Gaerdydd drwy Ysbyty Sain Tathan/y Rhws/y Barri/Llandochau a Bae Caerdydd)

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:  New Adventure Travel