Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 22/03/21

 

19/03/21 - Cael gwared â gollyngiadau o'r bysiau sy'n llygru gwaethaf yn y ddinas

Bydd 49 o'r bysiau mwyaf llygredig sydd ar waith yng Nghaerdydd yn cael eu hôl-ffitio â thechnoleg glanhau ecsôst i leihau cyfanswm allyriadau Nitrogen Ocsid (NOx) o'r cerbydau hyn gan 97%.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26153.html

 

19/03/21 - Gwaith adeiladu yn dechrau ar adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Fitzalan

Heddiw, cynhaliwyd seremoni torri'r dywarchen yn rhithiol i nodi dechrau'r gwaith o adeiladu'r Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd, sy'n gynllun sydd wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy'r rhaglen Fuddsoddi i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26148.html

 

18/03/21 - Hwb pwysig i Gaerdydd - Pencadlys BBC Cymru Wales yn y Sgwâr Canolog i ddod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang

Croesawodd arweinydd Cyngor Caerdydd y newyddion heddiw y bydd y BBC yn ehangu ei weithrediadau y tu allan i Lundain, gyda newidiadau hanesyddol wedi'u cynllunio ar gyfer sut y bydd y sefydliad yn darparu Darlledu Sector Cyhoeddus yn y dyfodol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26141.html

 

17/03/21 - Treial rheoli chwyn di-glyffosad i ddechrau yng Nghaerdydd

Bydd strydoedd a phalmentydd mewn dwy ardal yng Nghaerdydd yn rhydd o glyffosad eleni fel rhan o dreial i asesu ymarferoldeb dau ddull rheoli chwyn amgen.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26133.html

 

17/03/21 - Mwy o laswellt Caerdydd i dyfu tan fis Medi

Bydd natur yng Nghaerdydd yn cael hwb eleni gyda mwy o drefniadau 'un toriad', lle nad yw'r glaswellt yn cael ei dorri tan fis Medi.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26131.html

 

17/03/21 - Caerdydd yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ennill statws Sefydliad Llythrennedd Carbon

Mae Cyngor Caerdydd wedi dod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gael ei gydnabod fel Sefydliad Llythrennedd Carbon gan elusen garbon isel The Carbon Literacy Trust.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26127.html

 

17/03/21 - Sbatwlas ar doriad gwawr: Lansio her coginio iach

Mae'r chwiliad wedi dechrau i ddod o hyd i gogyddion iach gorau Caerdydd mewn her newydd a lansiwyd gan Dîm Cyngor Ariannol a Gwasanaeth Dysgu Oedolion y Cyngor.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26121.html

 

15/03/21 - Cynghorion Cartref Cŵn Caerdydd ar sut i atal dwyn cŵn

Mae nifer y cŵn sy'n cael eu dwyn yng Nghaerdydd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y pandemig ac mae cartref Cŵn Caerdydd yn apelio ar breswylwyr i fod yn wyliadwrus er mwyn diogelu eu hanifeiliaid anwes.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26108.html