Back
Cynghorion Cartref Cŵn Caerdydd ar sut i atal dwyn cŵn
Mae nifer y cŵn sy'n cael eu dwyn yng Nghaerdydd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y pandemig ac mae cartref Cŵn Caerdydd yn apelio ar breswylwyr i fod yn wyliadwrus er mwyn diogelu eu hanifeiliaid anwes.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae cael ci wedi'i ddwyn yn peri gofid mawr, a gyda phris ci wedi mynd drwy'r to dros y 12 mis diwethaf, rydym yn gofyn i berchnogion cŵn Caerdydd barhau i fod yn wyliadwrus a dilyn ychydig o ganllawiau syml i helpu i gadw eu hanifeiliaid anwes yn ddiogel."

Mae dwyn cŵn yn drosedd a dylid rhoi gwybod amdano i'r heddlu ar 101, ond mae camau y gellir eu cymryd i helpu i'w atal. Dyma rai cynghorion da gan Gartref Cŵn Caerdydd:

1. Gwnewch yn siŵr bod gan eich ci ficrosglodyn a bod y manylion yn gyfredol.

2. Gwnewch yn siŵr bod eich enw a’ch rhif ffôn ar dag eich ci.

3. Cadwch luniau cyfredol o'ch ci.

4. Amrywiwch y llwybrau a’r amseroedd pan fyddwch chi’n mynd â’ch ci am dro.

5. Ewch i ardaloedd lle mae pobl eraill yn cerdded.

6. Cadwch eich ci ar dennyn, yn enwedig os nad ydyn nhw’n dda am gael eu galw ‘nôl, neu defnyddiwch dennyn y gellir ei dynnu'n ôl.

7. Cadwch eich ci o fewn golwg bob amser.

8. Peidiwch â gadael eich ci ar ei ben ei hun mewn car, yn yr ardd, y tu allan i gytiau cŵn neu wedi'i glymu y tu allan i siop.

9. Peidiwch â rhoi gwybodaeth am eich ci i ddieithriaid a byddwch yn ofalus beth rydych chi'n ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.

10. Gwnewch yn siŵr bod ffiniau eich gardd yn ddiogel a’ch bod yn cloi eich gatiau.

11. Byddwch yn wyliadwrus a rhowch wybod i'r heddlu am gerbydau amheus ar 101.

Aeth y Cynghorydd Michael yn ei flaen i ddweud: "Rydym yn clywed pob math o straeon, am wefannau sy'n honni eu bod yn gysylltiedig â'r Cartref Cŵn ac yn gofyn i bobl am gannoedd o bunnoedd ymlaen llaw i roi cartref i gi, pobl sy'n honni eu bod yn dod o'r Cartref ac yn dweud wrthynt fod eu ci yn cyfateb i ddisgrifiad o gi coll neu gi wedi'i ddwyn – i fod yn glir, ni fyddai'r Cartref Cŵn fyth yn gwneud unrhyw un o'r pethau hyn a byddem yn annog trigolion i roi gwybod am ddigwyddiadau o’r natur yma i'r heddlu, ar 101, neu i’r adran Safonau Masnach."