Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 15/03/21

 

12/03/21 - Adeiladu ar gyfer y dyfodol: cynllun uchelgeisiol ar gyfer tai a chymunedau yn y ddinas

Yr wythnos nesaf, bydd y Cabinet yn ystyried strategaeth uchelgeisiol, sy'n nodi cynlluniau'r Cyngor i barhau i fynd i'r afael â'r angen am dai yn y ddinas, i uwchraddio cartrefi sy'n bodoli eisoes ac adfywio cymunedau, cynnal momentwm wrth fynd i'r afael â digartrefedd a chefnogi tenantiaid a phreswylwyr y mae'r pandemig yn effeithio arnynt.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26091.html

 

12/03/21 - CDLl newydd i Gaerdydd

Bydd yr Adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol Drafft a'r Cytundeb Darparu Drafft yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor Llawn ddydd Iau 18 Mawrth, i gael y gymeradwyaeth angenrheidiol i gyflwyno'r dogfennau i Lywodraeth Cymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26089.html

 

12/03/21 - Hwb i'r Yrfa ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd

Mae pobl ifanc sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor yn cael cynnig hwb i ddechrau yn y farchnad swyddi drwy'r cynllun Kickstart cenedlaethol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26087.html

 

12/03/21 - Bydd beicffordd Caerdydd ‘dros dro' newydd, yn agor i'r cyhoedd ar Ddydd Llun,15 Mawrth

Bydd beicffordd ‘dros dro' newydd, ar wahan, a fydd yn rhedeg o Heol y Gadeirlan i Blas Dumfries yn agor i'r cyhoedd ar 15 Mawrth.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26085.html

 

12/03/21 - Dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol traffig ar Stryd y Castell

Rydym yn gofyn i'r cyhoedd am eu barn ynghylch caniatáu i draffig cyffredinol ddefnyddio Stryd y Castell Caerdydd fel tramwyfa eto, gan ymuno â'r bysus, y tacsis, y beicwyr, y cerbydau dosbarthu a cherbydau'r gwasanaethau brys, sef yr unig draffig a ganiateir ar y ffordd ar hyn o bryd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26082.html

 

11/03/21 - Datgelu cynlluniau'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

Datgelwyd uwchgynllun newydd i gwblhau'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26077.html

 

11/03/21 - Canolfan Hamdden Pentwyn ar ei newydd wedd i gael ei rhedeg fel cyfleuster cymunedol gan Gleision Caerdydd

Datgelwyd cynlluniau i Gleision Caerdydd redeg Canolfan Hamdden Pentwyn fel cyfleuster hamdden cymunedol, yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth a fydd yn cynnwys pwll nofio newydd, ardal campfa, cae 3G a chaffi.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26074.html

 

11/03/21 - £228K i gynyddu gorchudd coed a thaclo newid hinsawdd yn Caerdydd

Bydd miloedd o goed newydd yn cael eu plannu ledled Caerdydd diolch i hwb ariannol gan Coed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26069.html

 

10/03/21 - Ysgol Uwchradd Willows - Digwyddiadau rhyngweithiol

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut mae eliffant yn glanhau ei ddannedd neu sut i ffitio pêl bowlio y tu mewn i beiriant sugno llwch?

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26063.html

 

10/03/21 - Gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr

O ddydd Llun 15, bydd ysgolion yn croesawu gweddill y plant oedran cynradd a disgyblion oedran uwchradd hŷn. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran sicrhau bod ein hysgolion yn gallu aros ar agor.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26058.html

 

09/03/21 - Ffensio grisiau'r Basn Hirgrwn ym Mae Caerdydd

Mae grisiau'r Basn Hirgrwn ym Mae Caerdydd yn cael eu ffensio i annog pobl i beidio ag ymgynnull mewn grwpiau ar adeg pan fo cyfyngiadau Covid-19 yn dal i fod ar waith.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26050.html