Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 12 Mawrth

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu: ailagor cyfleusterau awyr agored yn dilyn newidiadau i gyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd. 

 

Ailagor cyfleusterau awyr agored yn dilyn newidiadau i gyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru

Yn unol â'r dull gofalus, gwyliadwrus a graddol o lacio cyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru a  gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog heddiw,  bydd Cyngor Caerdydd yn cyflwyno'r newidiadau canlynol i'w gyfleusterau awyr agoredo yfory (dydd Sadwrn 13 Mawrth):

 

  • Bydd cyrtiau chwarae awyr agored, campfeydd awyr agored, Ardaloedd Chwaraeon Amlddefnydd a pharciau sglefrio a redir gan y Cyngor yn ailagor
  • Bydd y maes parcio ym Mharc Cefn Onn yn ailagor i bob defnyddiwr
  • Bydd maes parcio Morglawdd Bae Caerdydd yn ailagor
  • Caniateir llywio dyfroedd Bae Caerdydd

Roedd parciau ac ardaloedd chwarae yn gallu aros ar agor o dan delerau cyfyngiadau diwethaf Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n parhau i fod yn wir o dan y newidiadau diweddaraf.

I gael manylion llawn am newidiadau Llywodraeth Cymru i gyfyngiadau coronafeirws, ewch i:  https://llyw.cymru/

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 12 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:181,406(Cyfanswm ddoe: 3,599)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal: 4,161 (Dos 1) 2,723 (Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,126 (Dos 1) 773 (Dos 2)
  • 80 a throsodd: 18,994 (Dos 1) 276 (Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen: 24,674 (Dos 1) 17,642 (Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol: 8,556 (Dos 1) 5,141 (Dos 2)
  • 75-79: 14,043 (Dos 1) 738 (Dos 2)
  • 70-74: 20,166 (Dos 1) 3,749 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,251 (Dos 1) 1,192 (Dos 2)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • 65-69: 16,155 (Dos 1) 242 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 19,304 (Dos 1) 1,383 (Dos 2)
  • 60-64: 8,089 (Dos 1) 182 (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (01 Mawrth - 07 Mawrth)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

11 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 139

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 37.9 (Cymru: 41.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,721

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,014.2

Cyfran bositif: 3.7% (Cymru: 4.3% cyfran bositif)