Back
Hwb i’r Yrfa ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd


12/3/21
Mae pobl ifanc sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor yn cael cynnig hwb i ddechrau yn y farchnad swyddi drwy'r cynllun Kickstart cenedlaethol.

 

Mae gan bobl ifanc 16 i 24 oed yn y ddinas, sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, y cyfle i gael mynediad at leoliadau gwaith chwe mis ar draws ystod eang o sectorau i'w helpu i gael y profiad, y sgiliau a'r wybodaeth a allai arwain at gyflogaeth tymor hwy.

 

Mae'r fenter Llywodraeth y DU, a fydd yn cynnig cannoedd o filoedd o gyfleoedd swyddi ar draws y DU dros y ddwy flynedd nesaf, yn gwarantu lleoliad swydd am o leiaf 25 awr yr wythnos i bob person ifanc a leolir.

 

Bydd ‘Addewid Caerdydd' y Cyngor i bobl ifanc, sy'n dod â phartneriaid ynghyd ar draws y ddinas, yn sicrhau y caiff nifer y lleoedd Kickstart yn y ddinas eu mwyafu. 

 

Anogir cyflogwyr o bob maint a sector i ystyried sut y gallant gefnogi pobl ifanc sy'n gymwys ar gyfer y cynllun, a gaiff ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth y DU. Bydd cyflogwyr yn derbyn cyllid llawn ar gyfer pob lleoliad swydd tuag at gostau sefydlu ac i gefnogi person ifanc i ddatblygu ei sgiliau cyflogadwyedd.

 

Mae Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith y Cyngor, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a gwasanaethau cymorth ieuenctid ledled y ddinas i gyd yn gweithio gyda'i gilydd is sicrhau bod cymaint o bobl ifanc â phosibl yn cael yr arweiniad a'r cymorth sydd eu hangen i arnynt er mwyn cael mynediad at y cyfleoedd newydd hyn a sicrhau dyfodol gwell.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor a'n partneriaid yn Addewid Caerdydd yn gweithio gyda'i gilydd yn agos i gyfun eu harbenigedd a'u gwybodaeth i gefnogi pobl ifanc, sydd o bosibl wedi colli swyddi a chyfleoedd oherwydd y pandemig. Rwyf hefyd wrth fy modd yn cadarnhau y bydd y Cyngor ei hun yn hysbysebu 30 lleoliad Kickstart i ddechrau o fewn Gwasanaethau'r Cyngor yn fuan."

 

Dywedodd yCynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Bydd lleoliadau swyddi yn galluogi pobl ifanc i adeiladu eu sgiliau yn y gweithle, rhoi profiad amhrisiadwy iddynt yn y gwaith a gwella eu cyfleoedd o gael gwaith hirdymor.

 

"Rydym yn gobeithio y bydd sefydliadau a busnesau, yn fawr ac yn fach, yn manteisio ar y cyfle i roi hwb ystyrlon i berson ifanc i mewn i'r gwaith lle y gallant fagu hyder a sgiliau ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol."

 

Os ydych yn berson ifanc sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am y cynllun, ewch i www.imewniwaithcaerdydd.co.uk neu ffoniwch 02920 871 071.

 

Gall cyflogwyr gael gwybod mwy am Kickstart drwy ymweld â: www.caerdydd.gov.uk/kickstart neu gysylltu â Victoria Poole ar 029 2078 8565.