Back
Dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol traffig ar Stryd y Castell

12/03/21

 

Rydym yn gofyn i'r cyhoedd am eu barn ynghylch caniatáu i draffig cyffredinol ddefnyddio Stryd y Castell Caerdydd fel tramwyfa eto, gan ymuno â'r bysus, y tacsis, y beicwyr, y cerbydau dosbarthu a cherbydau'r gwasanaethau brys, sef yr unig draffig a ganiateir ar y ffordd ar hyn o bryd.

Byddwn yn gofyn i'r cyhoedd am eu barn ar y ddau ddewis canlynol:

Dewis 1:Mae hyn yn cynnwys ailfodelu lonydd traffig a byddai'n creu un lôn draffig i'r naill gyfeiriad ar gyfer yr holl gerbydau modur. Byddai lôn fysus yn mynd tua'r gorllewin hefyd yn cael ei gosod, yn ogystal â phalmentydd lletach i gerddwyr a beicffordd ddwyffordd ar wahân i'r ffordd gerbydau. Y lefelau o grynodiadau NO2yn yr aer a fodelwyd ar Stryd y Castell ar gyfer y dewis hwn yw 32 μg/m3.

Opsiwn 2:Aros fel gyda'r cyfluniad dros dro gyda bysus, tacsis, beicwyr, a cherbydau brys a dosbarthu yn unig yn cael defnyddio'r stryd. Byddai'r ffordd yn cael ei chyflunio gydag 1 lôn yn y naill gyfeiriad a'r llall, mwy o led i'r palmant ar yr ochr ddeheuol a giatiau bysus i'w gosod er mwyn atal cerbydau preifat rhag ddefnyddio'r ffordd. Y lefelau a fodelir o grynodiadau NO2yn yr aer ar Stryd y Castell ar gyfer yr opsiwn hwn yw 21 µg/m3.

Cyn pandemig COVID a phan oedd Stryd y Castell yn cael ei ddefnyddio gan bob math o draffig, cofnodwyd bod llygredd aer yn uwch na'r terfynau cyfreithiol (μg/m3)o ran NO2. Dangosai prosesau monitro ansawdd aer lefelau mor uchel â 51μg/m3ar y stryd. O ganlyniad, cytunodd Cyngor Caerdydd i weithredu Cynllun Aer Glân ar gyfer canol y ddinas er mwyn gwella lefelau ansawdd aer yn gyflym drwy leihau'r lle sydd ar gyfer ceir preifat, a chynyddu'r lle sydd ar gael ar gyfer bysus, teithio llesol a cherddwyr.

Mae modelu llinell sylfaen hefyd wedi'i wneud ar effeithiau'r newid yn y lefelau tagfeydd ac ansawdd aer mewn rhannau eraill yn y ddinas. Er bod dewis 2 yn dangos y bydd rhywfaint o wasgaru traffig, nid yw'r effeithiau'n achosi effaith negyddol o ran y lefelau ansawdd aer cyffredinol ar draws y ddinas. Nid yw'r modelu hwn yn ystyried newidiadau disgwyliedig yn ymddygiad pobl: defnyddio mathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth ac ymddygiadau cymudo ar ôl y pandemig. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild:

"Mae tagfeydd a lefelau ansawdd aer yn parhau i fod yn bryder mawr gan drigolion y ddinas ac rydym yn ceisio gwneud gwelliannau'n barhaus sy'n galluogi mwy o bobl i ddefnyddio teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae gennym le cyfyngedig ar gael ar ffyrdd a phalmentydd Caerdydd ac mae angen i ni sicrhau bod y gofod hwn yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd deg sy'n cefnogi dinas gynaliadwy.

"Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud y dewis iawn ar gyfer Stryd y Castell, ac rydym wir eisiau clywed gan bobl am sut mae'r gwahanol ddewisiadau yn effeithio arnyn nhw yn eu bywydau bob dydd.

"Rydym yn gwybod bod mynediad gyda cheir i rai pobl yn bwysig, ac er nad yw'r ddau opsiwn yn atal ceir rhag cael mynediad i feysydd parcio, byddai dewis 2 yn atal pobl sy'n defnyddio eu ceir rhag defnyddio'r stryd i groesi'r ddinas.

"I eraill, gall sicrhau y gall bysus symud yn gyflymach o amgylch canol y ddinas wella eu cymudo dyddiol, neu efallai y byddant yn teimlo'n fwy cyfforddus yn cerdded gyda llai o geir yng nghanol y ddinas. Rydym wedi cynhyrchu pecyn ymgynghori defnyddiol er mwyn i bobl allu deall y gwahanol effeithiau."

Dengys data modelu y bydd y ddau ddewis a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghori yn gwella ansawdd aer yn sylweddol drwy ganol y ddinas, ac nid ar Stryd y Castell yn unig. Bydd hyn yn sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â'r gyfraith a'r cyfarwyddyd cyfreithiol ar ansawdd aer a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o'r cynllun, mae offer monitro aer glân newydd wedi'i osod ar Stryd y Castell ac o'i hamgylch. Bydd llif traffig yn cael ei reoli'n rhagweithiol drwy dechnoleg glyfar a fydd yn casglu data byw ar swm y traffig ar draws y rhwydwaith ffyrdd. Bydd hyn yn cael ei fwydo'n ôl i uned reoli ganolog i reoli llif traffig yn well ac i leddfu tagfeydd.

Caiff canlyniadau'r ymgynghoriad eu bwydo'n ôl i'r Cabinet yn gynnar yn yr haf, pan benderfynir beth fydd dyfodol y stryd.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i wefan Cadw Caerdydd i Symud neu dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y cyngor. Bydd preswylwyr Stryd y Castell neu sy'n byw yn agos ati yn cael manylion drwy'r post am yr ymgynghoriad.

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, cynhelir cam dylunio manwl, eir i dendr a gallai rhan fwyaf y gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn diwedd 2021.

Mae’r pecyn ymgynghori ar y cynllun hwn ar gael ar wefan Cadw Caerdydd i Symud:https://keepingcardiffmoving.co.uk/cy/project/strydycastell/