Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 11 Mawrth

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: profion COVID-19 bellach ar gael i bobl yng Nghaerdydd a'r Fro gydag ystod ehangach o symptomau; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; Ymgyrch fideos Meddyg Teulu lleol yn ceisio cynyddu'r nifer a gaiff frechlynnau ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Profion COVID-19 bellach ar gael i bobl yng Nghaerdydd a'r Fro gydag ystod ehangach o symptomau

Mae Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro bellach yn cynghori preswylwyr i archebu prawf coronafeirws os oes ganddynt unrhyw un o blith ystod ehangach o symptomau. Mae'r newidiadau'n cael eu gwneud er mwyn helpu i ddod o hyd i achosion o amrywiadau newydd o COVID-19 ac i nodi pobl a allai fod mewn perygl o drosglwyddo'r clefyd i bobl eraill heb wybod hynny.

Yn ogystal â thri symptom mwyaf cyffredin Covid-19 - twymyn, peswch parhaus newydd neu golli/newid i'r gallu i arogli neu flasu - mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o'r symptomau sydd ar restr newydd o symptomau. Y rhain yw blinder, myalgia (poenau neu wayw yn y cyhyrau),  gwddf tost, cur pen, tisian, trwyn yn rhedeg, dim chwant bwyd, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd.

Yn unol â chyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru, bydd Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro hefyd yn cynnig prawf i'r holl unigolion sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â'r rheiny sydd wedi cael prawf positif, yn hytrach na gofyn iddynt aros nes iddynt ddatblygu symptomau, ac yn cynnig profion i unrhyw un y mae eu symptomau wedi newid yn dilyn canlyniad prawf negyddol blaenorol.

Gall trigolion Caerdydd a Bro Morgannwg gael prawf yn unrhyw un o'r canolfannau profi rhanbarthol, neu drwy ddefnyddio pecyn prawf cartref. Mae'r canolfannau profi ar gyfer Caerdydd a'r Fro wedi'u lleoli yn:

-Stadiwm Dinas Caerdydd, Lecwydd

-Rhodfa'r Amgueddfa, Canol Dinas Caerdydd

-Neuadd y Sir, Bae Caerdydd

-Hen Ganolfan Feddygol Parkview, Trelái

-Canolfan Chwaraeon Colcot, Y Barri

Gallwch drefnu prawf yma:  https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws  neu drwy ffonio 119  Wrth drefnu prawf ar-lein oherwydd y rhestr ehangach o symptomau dylai trigolion ddewis yr opsiwn "gofynnodd eich cyngor lleol i chi gael prawf".

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 11 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:177,763(Cyfanswm ddoe: 3,579)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal: 4,147 (Dos 1) 2,621 (Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,126 (Dos 1) 748 (Dos 2)
  • 80 a throsodd: 18,980 (Dos 1) 250 (Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen: 24,552 (Dos 1) 17,099 (Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol: 8,482 (Dos 1) 4,832 (Dos 2)
  • 75-79: 14,032 (Dos 1) 690 (Dos 2)
  • 70-74: 20,148 (Dos 1) 3,554 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,226 (Dos 1) 1,066 (Dos 2)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • 65-69: 16,011 (Dos 1) 232 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 17,916 (Dos 1) 1,315 (Dos 2)
  • 60-64: 8,001 (Dos 1) 146 (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Ymgyrch fideos Meddyg Teulu lleol yn ceisio cynyddu'r nifer a gaiff frechlynnau ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig

Mae cyfres o fideos addysgol byrion wedi'u cynhyrchu gan weithwyr proffesiynol dibynadwy i gefnogi pobl i wneud dewis gwybodus am frechiad COVID-19 fel rhan o ymgyrch newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Nod y gwaith yw cynyddu nifer y bobl sy'n dewis cael y brechlyn COVID-19 ymhlith rhai o'r grwpiau y mae'r feirws wedi effeithio'n anghymesur arnynt. Mae pob fideo byr yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol sy'n peri pryder sy'n ymwneud â'r brechlyn, gan gynnwys: effeithiolrwydd; diogelwch a sgil-effeithiau; effaith ar gyflyrau sylfaenol; a chynhwysion brechlynnau.

I greu'r fideos, gweithiodd y bwrdd iechyd yn agos gyda Meddygon Mwslimaidd Cymru a nifer o Feddygon Teulu o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Caerdydd a'r Fro, ac mae Cyngor Caerdydd yn gofyn i arweinwyr cymunedol a grwpiau cymunedol gefnogi'r ymgyrch drwy rannu'r fideos yn eu hardaloedd lleol.

Mae'r  fideos ar gael ar YouTube yma  ynghyd â negeseuon cyfryngau cymdeithasol wedi'u hargymell a ysgrifennwyd i gyd-fynd â phob un ohonynt sydd ar gael i'w lawrlwytho yma.

Dangosodd canlyniadau  Adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru a ryddhawyd fis diwethaf ei bod yn ymddangos bod pobl hŷn grwpiau ethnig gwyn, ar lefel Cymru gyfan, yn manteisio ar y brechlyn yn gyflymach na phobl hŷn mewn grwpiau ethnig Du, Asiaidd, Cymysg ac Eraill ar y cyd.

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, "Rwy'n bryderus iawn o ddeall i ba raddau y mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu ein darlun lleol yng Nghaerdydd a'r Fro, ond yn y cyfamser rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymgysylltu â'n cymunedau lleol i ddarganfod a oes unrhyw rwystrau rhag cael y brechlyn.

"Mae sicrhau bod ein holl breswylwyr yn gallu gwneud dewis gwybodus ynghylch brechu yn flaenoriaeth gref i'r Bwrdd Iechyd. Mae dros un o bob tri o drigolion Caerdydd a'r Fro wedi cael y brechlyn hyd yma ac mae pob person sy'n cael ei frechu yn helpu i amddiffyn ein haelodau teulu sy'n hŷn a bregus.

"Byddwn wir yn annog pob aelod sy'n oedolyn o'n cymunedau lleol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i fanteisio ar y brechlyn pan gaiff ei gynnig. Mae'n bwysig iawn i'ch amddiffyn. Wrth i ragor o frechlynnau ddod ar gael, byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bod pawb a wahoddir yn cael atebion i'w cwestiynau a'r cymorth sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu hapwyntiad brechlyn."

Cwestiynau Cyffredin am y brechlyn COVID-19 a atebwyd mewn amrywiaeth o ieithoedd, a gellir dod o hyd iddynt yma.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (28 Chwefror - 06 Mawrth Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

10 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 145

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 39.5 (Cymru: 42.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,663

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 998.4

Cyfran bositif: 4.0% (Cymru: 4.5% cyfran bositif)