Back
Diweddariad COVID-19: 8 Mawrth

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: neges gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ar frechiadau gofalwyr di-dâl; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Neges gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ar frechiadau gofalwyr di-dâl

"Rydym bellach wedi derbyn canllawiau'r JCVI ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n gymwys i dderbyn eu brechiad Covid.

"Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd y rhai sydd wedi'u nodi yn dechrau derbyn apwyntiadau drwy'r post ar gyfer un o'n Canolfannau Brechu Torfol.

"Mae gofalwyr di-dâl bellach yn gallu gofyn am eu brechiad gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon."

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 07 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:164,422(Cyfanswm ddoe: 2,642)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal: 4,140 (Dos 1) 2,240 (Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,064 (Dos 1) 670 (Dos 2)
  • 80 a throsodd: 18,953 (Dos 1) 216 (Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen: 24,236 (Dos 1) 15,410 (Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol: 8,281 (Dos 1) 3,919 (Dos 2)
  • 75-79: 14,015 (Dos 1) 473 (Dos 2)
  • 70-74: 20,083 (Dos 1) 3,147 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,193 (Dos 1) 728 (Dos 2)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • 65-69: 15,343 (Dos 1) 186 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 14,194 (Dos 1) 1,111 (Dos 2)
  • 60-64: 7,415 (Dos 1) 110 (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (25 Chwefror - 03 Mawrth Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

07 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 164

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 44.7 (Cymru: 44.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,399

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 926.4

Cyfran bositif: 4.8% (Cymru: 4.8% cyfran bositif)