05/03/21 - Bydd Canolfan Brechu Torfol Newydd yn agor ar gyfer poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn agor pedwaredd Canolfan Brechu Torfol fel rhan o'i raglen Brechu Torfol i ddiogelu ei phoblogaeth oedolion rhag Covid-19 cyn gynted â phosibl.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26026.html
05/03/21 - Cytuno ar y gyllideb ôl-bandemig a luniwyd i ‘roi wb' i Gaerdydd ac i ddiogelu gwasanaethau hanfodol
Mae cyllideb adfer ôl-bandemig i Gaerdydd gwerth miliynau o bunnoedd - wedi ei llunio er mwyn helpu i greu swyddi newydd, darparu cartrefi cyngor newydd, adeiladu ysgolion gwell a diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol - wedi ei chytuno gan Gyngor Caerdydd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26024.html
05/03/21 - Lonydd wedi'u trawsnewid yn fannau diogel, gwyrdd sy'n Dda i Blant
Mae menter newydd i drawsnewid lonydd a lonydd cefn yn fannau hwyliog, gwyrdd a diogel i blant gael chwarae, yn cael ei threialu yn Grangetown y mis hwn.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26021.html
04/03/21 - Lansio Cronfa Argyfwng Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd i drigolion mewn angen
Mae cronfa argyfwng newydd wedi'i rhoi ar waith i gefnogi trigolion Caerdydd mewn argyfwng. Mae Cronfa Argyfwng Dewisol Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd wedi cael £10,000, diolch i haelioni'r arweinydd busnes rhyngwladol o Gaerdydd, Alan Peterson, wrth i'r Cyngor geisio rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ar draws y ddinas sydd mewn angen ac yn profi caledi.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26015.html
03/03/21 - Ailagor Pont y Gored Ddu
Mae Pont y Gored Ddu wedi ailagor ar ôl i Brifysgol Caerdydd, sydd â chyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r bont dros Afon Taf, gwblhau gwaith strwythurol i'w gwneud yn ddiogel.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26001.html
02/03/21 - Cofrestrwch - Peidiwch â cholli eich cyfle i bleidleisio yn etholiadau mis Mai
Cynhelir etholiadau'r Senedd a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ledled Cymru ar 6 Mai 2021 ac mae Cyngor Caerdydd yn annog preswylwyr cymwys ar draws y ddinas i sicrhau eu bod wedi cofrestru i bleidleisio.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25989.html
01/03/21 - Cyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim i holl staff Cyngor Caerdydd
I gyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi, mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi manylion cynllun newydd i gynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i'w holl staff, gan gwmpasu pob gallu, a'r ystod amrywiol o wasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod lleol.
Darllenwch fwy yma: