Back
Bydd Canolfan Brechu Torfol Newydd yn agor ar gyfer poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg.

05/03/21

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn agor pedwaredd Canolfan Brechu Torfol fel rhan o'i raglen Brechu Torfol i ddiogelu ei phoblogaeth oedolion rhag Covid-19 cyn gynted â phosibl.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg i gynyddu'r gallu i frechu a bydd y Ganolfan Brechu Torfol newydd yn Bayside yn galluogi rhoi hyd at 2,500 o frechiadau ychwanegol y dydd, gan ddibynnu ar gyflenwad y brechlynnau. Bydd y ganolfan newydd ar gael tua diwedd mis Mawrth.

Mae'r ganolfan newydd yn cael ei datblygu ar hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Bydd lleoliad y safle ar gael i bobl yng Nghaerdydd a hefyd i drigolion Dwyrain y Fro.

Y ganolfan yw'r bedwaredd i gael ei hagor yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ac mae pob un o'r 60 Meddygfa Deulu ar draws y ddwy sir hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen, a bydd Fferyllfeydd Cymunedol hefyd yn ymuno â'r rhaglen o fis Ebrill.

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, "Dyma'r rhaglen frechu fwyaf y mae'r GIG erioed wedi bod yn rhan ohoni a hyd yma mae cynnydd aruthrol wedi'i wneud. Hyd yn hyn rydym wedi brechu dros draean o'n poblogaeth sy'n oedolion gyda'r ddos gyntaf, ac mae rhai nawr yn cael eu hail ddos, sy'n darparu'r amddiffyniad gorau.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'n holl bartneriaid a rhanddeiliaid i'n galluogi i ddarparu'r brechlyn i gynifer o bobl â phosibl cyn gynted â phosibl ac rydym wedi bod yn ddiolchgar i'r rhai sydd wedi ein cefnogi trwy'r broses hon.  Dros yr wythnosau nesaf rydym yn rhagweld y gallwn gynyddu'r niferoedd hyn gyda'r ganolfan newydd a chymorth ein contractwyr gofal sylfaenol."

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, "Mae'r Cyngor yn falch o chwarae rhan annatod yn y gwaith o gyflwyno'r rhaglen frechu dorfol, ar y cyd â'n partneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyngor Bro Morgannwg, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y bydd Canolfan Brechu Torfol newydd yn cael ei hagor yng Nghaerdydd cyn bo hir, ar safle sy'n eiddo i'r Cyngor.

"Mae staff Cyngor Caerdydd wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr i fynd i'r afael â pandemig Covid-19 ers iddo gyrraedd yma flwyddyn yn ôl, ac rwyf am dalu teyrnged i'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud. Buom yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd sawl mis cyn y daeth y brechlyn ar gael, yn cynllunio sut byddem yn cyflwyno'r broses frechu, y logisteg ynghlwm, a'r mathau o adeiladau a mesurau rheoli traffig y byddai eu hangen."

"Ni anghofiwn ni fyth y trychinebau y mae'r pandemig byd-eang wedi eu hachosi, ond mae cyflymder cynyddol y broses o gyflwyno'r brechlyn yn erbyn Covid-19 yng Nghaerdydd a'r Fro yn cynnig gobaith pellach bod diwedd yr argyfwng yn y golwg ac y gallwn ddechrau'r broses adfer."

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol,   "Mae dros 150,000 o frechiadau bellach wedi'u rhoi yng Nghaerdydd a'r Fro ac mae'r ymdrech ar y cyd i gyrraedd y nifer hwn wedi bod yn anhygoel. 

"Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn y bwrdd iechyd a Chyngor Caerdydd i sicrhau ein bod yn gallu rhoi'r holl frechlynnau sydd ar gael cyn gynted â phosibl. 

"Bydd y ganolfan newydd hon ar gyfer Caerdydd a'r Fro yn ein galluogi i symud trwy'r grwpiau blaenoriaeth nesaf hyd yn oed yn gyflymach a dod â diwedd y pandemig yn nes fyth." 

Yn ogystal â'r ganolfan newydd, mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cwmpasu cyfleoedd i gynyddu mynediad lleol yng ngorllewin Bro Morgannwg. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal â Meddygfeydd Teulu yn yr ardal a Fferyllfeydd Cymunedol i alluogi cynyddu'r broses frechu ar gyfer trigolion yr ardal hon.

Hyd yma mae'r Bwrdd Iechyd wedi darparu dros 155,000 o frechlynnau, gyda 133,257 o'r rhain yn ddosau cyntaf. Ar hyn o bryd, rydym yn cysylltu â Grwpiau Blaenoriaeth 5-7 i gael eu dosau cyntaf a byddwn yn dechrau cysylltu â Grwpiau 1-4 i gael eu hail ddosau dros y misoedd nesaf. Bydd yr holl ddosau cyntaf ar gyfer Grwpiau 1-9 wedi cael eu rhoi erbyn 19 Ebrill.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu, ewch i'n  gwefan