Back
Diweddariad COVID-19: 4 Mawrth

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a lansio Cronfa Argyfwng Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd i drigolion mewn angen.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 4 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:155,534(Cyfanswm ddoe: 3,144)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal: 4,248 (Dos 1) 1,884 (Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,885 (Dos 1) 395 (Dos 2)
  • 80 a throsodd: 18,885 (Dos 1) 163 (Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen: 24,224 (Dos 1) 12,676 (Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol: 8,385 (Dos 1) 2,717 (Dos 2)
  • 75-79: 13,979 (Dos 1) 194 (Dos 2)
  • 70-74: 20,034 (Dos 1) 2,603 (Dos 2)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • Yn glinigol agored i niwed: 9,189 (Dos 1) 489 (Dos 2)
  • 65-69: 14,631 (Dos 1) 149 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 9,007 (Dos 1) 722 (Dos 2)
  • 60-64: 7,682 (Dos 1) 81 (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Lansio Cronfa Argyfwng Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd i drigolion mewn angen

Mae cronfa argyfwng newydd wedi'i rhoi ar waith i gefnogi trigolion Caerdydd mewn argyfwng.

Mae Cronfa Argyfwng Dewisol Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd wedi cael £10,000, diolch i haelioni'r arweinydd busnes rhyngwladol o Gaerdydd, Alan Peterson, wrth i'r Cyngor geisio rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ar draws y ddinas sydd mewn angen ac yn profi caledi.

Y fenter yw ymateb diweddaraf y Cyngor i'r effaith y mae'r pandemig yn parhau i'w chael ar gymunedau ar draws y ddinas.

Ar ddechrau'r argyfwng, sefydlodd yr awdurdod fenter wirfoddoli, Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd, i harneisio ar ysbryd cymunedol ac awydd cryf trigolion i helpu ei gilydd mewn cyfnod o angen. Dilynwyd hyn yn gyflym trwy greu Apêl Bwyd Caerdydd gyda busnesau ac unigolion lleol, gan gynnwys Mr Peterson, yn rhoi mwy na £100,000 a ddefnyddiwyd i brynu'r parseli bwyd brys a'r nwyddau hanfodol y mae'r Cyngor wedi'u rhoi i bobl sydd wedi ei chael yn anodd cael nwyddau drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Roedd yr haelioni aruthrol a ddangoswyd gan fusnesau ac unigolion yn y ddinas ar ddechrau'r argyfwng y llynedd, o ran cyfraniadau ariannol i'r apêl bwyd a phobl yn rhoi o'u hamser yn anhunanol i wirfoddoli i gefnogi pobl eraill yn eu cyfnod o angen, yn rhagorol. Yn wir, mae pobl wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd dros Gaerdydd.

"Defnyddiwyd yr arian hwn, yn ogystal â'r nwyddau a roddwyd gan fusnesau a Banc Bwyd Caerdydd, i brynu bwyd brys a pharseli nwyddau hanfodol i bron 8,500 o bobl sydd wedi ei chael hi'n anodd cael darpariaethau trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.

"Yn anffodus, mae'r argyfwng a'r anawsterau y mae wedi'u creu yn dal i fod gyda ni ac mae llawer o gartrefi incwm isel yn y ddinas yn parhau i gael trafferthion, felly mae'r gronfa argyfwng hon wedi'i sefydlu i gefnogi'r rhai sydd mewn argyfwng.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r teulu Peterson am eu cyfraniad hael unwaith eto, sydd wedi helpu i roi'r gronfa ar waith. Gobeithiwn y bydd pobl eraill sydd am helpu trigolion mewn trafferthion yn cynnig cymorth hefyd, o rai o fusnesau'r ddinas i unigolion yn y gymuned sydd am gefnogi eu cymdogion.

"Diolch i bawb sy'n gallu helpu. Bydd eich cymorth yn gwneud gwahaniaeth hollbwysig i bobl mewn angen yng Nghaerdydd. Diolch yn fawr iawn."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26015.html