Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 3 Mawrth

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: Ailagor Pont y Gored Ddu; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Ailagor Pont y Gored Ddu

Mae Pont y Gored Ddu wedi ailagor ar ôl i Brifysgol Caerdydd, sydd â chyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r bont dros Afon Taf, gwblhau gwaith strwythurol i'w gwneud yn ddiogel.

Mae arwyddion newydd wedi cael eu gosod yn gofyn i bobl gadw i'r chwith, cynnal hylendid dwylo ac anadlol da, a pheidio ag aros ar y bont.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Drwy gydol y pandemig rydym wedi gwneud, a byddwn yn parhau i wneud, y cyfan y gallwn i gadw Caerdydd yn ddiogel a chyfyngu ar ledaeniad Covid-19. Ond rydym hefyd am alluogi pobl i symud yn ddiogel ac yn hawdd o amgylch y ddinas, ac rwy'n falch bod yr holl waith strwythurol angenrheidiol bellach wedi'i gwblhau a bod modd ailagor y bont yn ddiogel."

Codwyd rhwystrau i atal pobl rhag defnyddio'r bont i groesi Afon Taf ddiwedd mis Ebrill 2020 ar ôl i sawl rhybudd i gynnal pellter cymdeithasol drwy groesi'r bont mewn un cyfeiriad ar y tro gael ei anwybyddu.

Cynhaliwyd asesiadau risg Covid-19 gan Gyngor Caerdydd y llynedd gan ystyried y newidiadau i'r ddealltwriaeth wyddonol o sut mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo, ond cyn ailagor y bont cynhaliodd Prifysgol Caerdydd arolwg strwythurol ohoni a ddatgelodd difrod i ddeciau'r bont, a achoswyd gan dân, a difrod i nifer o baneli rhwyll ar ôl i goeden fwrw'r bont yn ystod stormydd y gwanwyn diwethaf.

Mae'r contractwyr sy'n gweithio ar ran y Brifysgol bellach wedi cwblhau'r atgyweiriadau hyn i ddiogelu strwythur y bont.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 3 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:152,299.

 

Grwpiau Blaenoriaeth 5-7:

65-69: 14,336

Chyflwr Iechyd Sylfaenol: 8,626

60-64: 7,686

 

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (20 Chwefror - 26 Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

02 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 198

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 54.0 (Cymru: 57.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,546

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 966.5

Cyfran bositif: 5.6% (Cymru: 5.8% cyfran bositif)