Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 2 Mawrth

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: "Cofrestrwch", peidiwch â cholli eich cyfle i bleidleisio yn etholiadau mis Mai; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

"Cofrestrwch" - Peidiwch â cholli eich cyfle i bleidleisio yn etholiadau mis Mai

Cynhelir etholiadau'r Senedd a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ledled Cymru ar 6 Mai 2021 ac mae Cyngor Caerdydd yn annog preswylwyr cymwys ar draws y ddinas i sicrhau eu bod wedi cofrestru i bleidleisio.

Yr wythnos hon, bydd llythyrau gan dîm Gwasanaethau Etholiadol yr awdurdod yn dechrau cyrraedd aelwydydd yn gofyn i breswylwyr gadarnhau manylion y pleidleiswyr cymwys yn yr eiddo, a'r dull pleidleisio - yn bersonol, drwy'r post neu drwy ddirprwy, y maent wedi'i ddewis er mwyn pleidleisio ym mis Mai.

Dylai preswylwyr ddarllen y wybodaeth yn ofalus ac os yw'r holl fanylion yn gywir, nid oes angen gwneud unrhyw beth.  Os oes angen gwneud newidiadau, er enghraifft yn achos unigolyn sydd wedi'i restru nad yw'n byw yn y cyfeiriad mwyach, dylai preswylwyr gysylltu â'r Cyngor drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk  neu ffonio 029 2087 2088.

Gall unrhyw aelod o'r aelwyd sy'n 14 oed neu hŷn nad yw wedi'i restru ar y llythyr gofrestru i bleidleisio yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio Etholiad y Senedd eleni fydd y tro cyntaf y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru, yn ogystal â dinasyddion tramor cymwys, yn gallu pleidleisio i ethol aelodau'r Senedd honno.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25989.html

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 1 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:145,065.

 

Grwpiau Blaenoriaeth 5-7:

65-69: 12,936

Chyflwr Iechyd Sylfaenol: 6,477

60-64: 7,453

 

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (19 Chwefror - 25 Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

01 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 231

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 63.0 (Cymru: 60.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,709

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,010.9

Cyfran bositif: 6.2% (Cymru: 5.9% cyfran bositif)