Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: gwaith adeiladu'n cychwyn ar yr Hyb Lles yn y Maelfa; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i
Gwaith adeiladu'n cychwyn ar yr Hyb Lles yn y Maelfa
Mae gwaith wedi cychwyn ar Hyb Lles newydd hirddisgwyliedig yng Nghaerdydd yn dilyn misoedd o gynllunio gan Gyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chanolfan Iechyd Llanedern.
Diolch i fuddsoddiad o £14 miliwn gan Lywodraeth Cymru, dechreuodd y gwaith adeiladu ar yr Hyb Lles newydd yn y Maelfa wythnos diwethaf.
Mae'r ganolfan newydd yn cael ei hychwanegu at Hyb Cymunedol Powerhouse presennol y Cyngor felly bydd yn defnyddio'r gwasanaethau a ddarperir gan The Powerhouse gyda chaffi cymunedol, ystafelloedd cymunedol cyffredin ac ardal gyngor, lle gall grwpiau iechyd, awdurdodau lleol a thrydydd sector ddarparu gwasanaethau cyngor, addysg a lles. Mae cysylltu'r Hyb Lles newydd a'r Hyb Cymunedol Powerhouse presennol a rhannu'r gofod yn integreiddio gwasanaethau iechyd a chymunedol ac yn darparu gwasanaeth amlswyddogaethol i gleifion, staff a chymuned leol Llanedern, fel y nodir yng Nghynllun Lles Caerdydd.
Bydd y ganolfan newydd, a fydd hefyd yn cymryd lle Canolfan Iechyd Llanedern, yn gwasanaethu cleifion Llanedern a Phentwyn o fis Hydref 2022 pan ddisgwylir i'r gwaith adeiladu ddod i ben. Bydd Llan Healthcare yn parhau i weithredu o Ganolfan Iechyd Llanedern a Grŵp Meddygol Llanrhymni tra bod gwaith adeiladu yn mynd rhagddo.
Yn ogystal â gofod clinigol ychwanegol ar ffurf 15 ystafell ymgynghori, chwe ystafell driniaeth a phedair ystafell gyfweld, bydd yr Hyb hefyd yn gartref i amrywiaeth o glinigau iechyd arbenigol gan gynnwys gwasanaethau cymorth i blant a phobl iau, gofal cynenedigol a chwnsela.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cymru ill dau wedi ymrwymo i integreiddio a moderneiddio gwasanaethau a chyfleusterau iechyd a chymunedol er budd trigolion Caerdydd. Mae Hyb Lles y Maelfa yn gyfle gwych i gyflawni'r ymrwymiad hwn ac rwy'n edrych ymlaen at weld y datblygiad cyffrous yn mynd rhagddo."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae rhaglen Hybiau Cymunedol y Cyngor wedi sicrhau bod darpariaeth gwasanaeth a chydweithio gydgysylltiedig mewn cymdogaethau â blaenoriaeth wrth ei wraidd felly rwy'n falch iawn o weld yr egwyddorion hyn yn cael eu hymestyn ymhellach, i wella gwasanaethau yn y Powerhouse a chyfrannu ymhellach at adfywio ardal y Maelfa ar gyfer y gymuned."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25932.html
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 24 Chwefror
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:132,009.
Grwpiau Blaenoriaeth 5-7:
65-69: 9,333
Chyflwr Iechyd Sylfaenol: 5,457
60-64: 6,812
Cafwyd y data gan BIPCAF
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (13 Chwefror - 19 Chwefror)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
23 Chwefror 2021, 09:00
Achosion: 376
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 102.5 (Cymru: 78.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 1,071.9
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,071.9
Cyfran bositif: 9.6% (Cymru: 6.9% cyfran bositif)