Back
Llythyr at y Prif Weinidog gan arweinwyr y tair dinas fawr yng Nghymru

24/02/21


Mae arweinwyr tair dinas fwyaf Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei phwerau i hybu'r economi a diogelu swyddi a bywoliaethau yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

Mae'r llythyr wedi'i ysgrifennu a'i lofnodi gan arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas; arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd; arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, a'r Cynghorydd Anthony Hunt, Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Yn y llythyr, nodir bod y tair dinas yn cyflogi 400,000 o bobl, yn cynhyrchu £325m mewn ardrethi busnes ac yn cyfrif am draean o werth ychwanegol gros, busnesau a swyddi Cymru. Ond mae ofnau bellach yn cynyddu y gallai effeithiau Covid-19 a diweithdra cynyddol effeithio'n sylweddol ar Gymru am genhedlaeth oni bai bod camau'n cael eu cymryd ar unwaith er mwyn helpu i ddiogelu'r rôl y mae dinasoedd yn eu chwarae yn economi Cymru.

Mae'r pandemig yn bygwth nifer o swyddi yn bennaf yn y sectorau manwerthu, lletygarwch, diwylliant a digwyddiadau, sydd i gyd wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol gan y cyfnodau cloi a'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i atal lledaeniad y feirws.

Mae'r llythyr at y Prif Weinidog yn nodi'r effaith ariannol bryderus ar bob un o'r tair dinas ar draws y sectorau hyn, gyda'r niferoedd sy'n hawlio tâl diweithdra yn codi o 7,910 i 15,975, sydd ychydig o dan 100% yng Nghaerdydd a gweithwyr iau yn cael eu heffeithio'n anghymesur oherwydd yr effaith ar y sector lletygarwch a digwyddiadau.

Yng Nghasnewydd, lle cyflogir bron i 20,000 o bobl yn y sectorau manwerthu a lletygarwch, mae nifer yr hawliadau diweithdra wedi codi bron 3,500.

Yn Abertawe, mae bron i 1,000 yn fwy o bobl o dan 24 oed yn hawlio budd-daliadau diweithdra, ers dechrau'r pandemig.

Mae'r llythyr at y Prif Weinidog yn dweud, er bod angen cymorth ar unwaith ar y sectorau dan sylw, mae cyfle hefyd i ddinasoedd Cymru elwa o'r adferiad. Mae'n dyfynnu dadansoddwyr economaidd sy'n dweud y gallai llawer o gyflogwyr mawr geisio symud i ffwrdd o ddinasoedd mwy gyda gorbenion uchel wrth iddynt geisio addasu i amodau newydd ar ôl y pandemig.

Yn y llythyr, mae'r tri chyngor wedi gosod sawl trywydd posib ger bron Llywodraeth Cymru i gynorthwyo'r adferiad, gan gynnwys:

  • Cefnogi'r cynlluniau adfywio mawr ym mhob un o'r tair dinas, gan gynnwys y Sgwâr Canolog yng nghanol dinas Caerdydd a'r uwchgynllun ar gyfer Bae Caerdydd; y Bae Copr yn Abertawe, a'r prosiectau Hamdden ac NKQ yng Nghasnewydd;
  • Yr angen i ail-bwrpasu eiddo gwag allweddol yng nghanol pob un o'r dinasoedd er mwyn rhoi hyder i fuddsoddwyr a sicrhau defnydd hirdymor cynaliadwy i fusnesau, gweithwyr, trigolion ac ymwelwyr;
  • Rhoi cymorth ariannol ychwanegol brys i'r sector lletygarwch i achub swyddi, sy'n cyflogi dros 30,000 o bobl yn y sector hwnym mhob un o'r tair dinas gan gystadlu â dinasoedd eraill y Deyrnas Gyfunol o ran twristiaeth ddomestig;
  • Cyflwyno Parthau Menter cryfach, gyda phwerau ariannol gwirioneddol a brofwyd yn canolbwyntio ar gadw ardrethi busnes sy'n gysylltiedig â thwf er mwyn cefnogi buddsoddiad ar gyfer adnewyddu ac adfer. Mae angen ystyried yr ystod lawn o fecanweithiau ariannol, gan gynnwys cynlluniau Ariannu Cynyddrannol Treth, a allai gynyddu incwm ardrethi busnes yn y dyfodol i'w rannu ledled Cymru.

 

Mae Arweinwyr y tri chyngor wedi galw am drafodaethau ar sicrhau adferiad cyflym yng Nghymru fel y gall gwaith ddechrau cyn cyfnod etholiad y Senedd.

 

(Diwedd)