Back
Cynllun sgwteri ysgol i hyrwyddo mwy o gyfleoedd chwarae a theithio llesol i blant yng Nghaerdydd

23/2/2020

Bydd Cyngor Caerdydd yn cyflawni mwy na 450 o sgwteri a beiciau cydbwyso i ysgolion a lleoliadau chwarae y mis hwn, gan ddarparu mwy o gyfleoedd chwarae i blant a allai fod wedi colli allan yn ystod COVID-19 wrth gefnogi ysgolion i hyrwyddo teithio llesol. 

Wedi'i ariannu ganGrant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan, bydd y cynllun yn gweld ysgolion Cynradd, Canolfannau Adnoddau Arbenigol ac Ysgolion Arbennig yn derbyn fflyd o sgwteri ynghyd â chynlluniau gwersi a rampiau. Darperir adnoddau i'r ysgolion hynny lle mae Strydoedd Ysgol ar waith i alluogi sesiynau chwarae ar y stryd a bydd darpariaeth Meithrinfeydd a Gynhelir a Dechrau'n Deg hefyd yn derbyn sgwteri a beiciau cydbwyso, gan alluogi plant i chwarae yn yr awyr agored yn ystod amser egwyl.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae plant wedi colli llawer iawn oherwydd COVID-19 a bydd y cynllun hwn yn helpu i ddarparu cyfleoedd ychwanegol i rai o'n disgyblion mwyaf difreintiedig.

"Mae amrywiaeth o fanteision cadarnhaol i chwarae yn yr awyr agored a bydd y cyfle i gymryd rhan mewn sgwtio a beicio ynghyd â chymorth a hyfforddiant, yn helpu plant i ddatblygu sgiliau y byddant yn eu defnyddio am weddill eu hoes.

"Drwy roi cyfleoedd fel hyn i blant a phobl ifanc, mae'n cefnogi ymhellach uchelgais Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF, gan helpu i wneud Caerdydd yn ddinas wych i dyfu'n hŷn ynddi."

Dywedoddyr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae timau o bob rhan o'r Cyngor wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r cyllid hwn, gan ein galluogi i gynyddu'r ddarpariaeth chwarae yn yr awyr agored a gwella'r gweithgareddau a ddarperir gan ysgolion a chynlluniau chwarae ledled y ddinas

"Bydd y cyfleoedd newydd hyn yn helpu i ennyn brwdfrydedd plant i ddefnyddio beiciau cydbwyso, sgwteri a beiciau yn ddiogel ac yn hyderus drwy wella cydbwysedd a chydsymud. Wrth iddyn nhw dyfu bydd y sgiliau hyn yn gwneud beicio'n llawer haws ac yn helpu tuag at newidiadau mewn ymddygiad a fydd, dros amser, yn cael effaith gadarnhaol ar eu dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gwella lles corfforol ac emosiynol yn ogystal â lleihau allyriadau i gael amgylchedd gwyrddach i fyw ynddo."

"Mae hwn yn un o nifer o brosiectau sy'n helpu i drawsnewid system trafnidiaeth gyhoeddus y ddinas, gan hyrwyddo mwy o fathau o Deithio Llesol ac, yn bwysig, yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd fel y nodir yn Uchelgais Prifddinas Caerdydd." 

Mae'r cynllun diweddaraf hwn yn un o nifer o brosiectau i'w cyflawni drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan sy'n cefnogi ac yn cynyddu cyfleoedd chwarae, yn unol ag Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd.