22/02/21
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg, nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd a'r diweddaraf ynghylch gwastraff ac ailgylchu.
Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 22 Chwefror
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:126,289
Grwpiau Blaenoriaeth 5-7
65-69: 7,493
Chyflwr Iechyd Sylfaenol: 5,177
60-64: 6,443
Cafwyd y data gan BIPCAF
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod ( 11 Chwefror - 17 Chwefror)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
21Chwefror 2021, 09:00
Achosion: 381
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth:103.8 (Cymru:80 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,861
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,052.3
Cyfran bositif: 9.9% (Cymru:7.4%cyfran bositif)
Gwybodaeth am Wastraff ac Ailgylchu
Dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu newydd yn dechrau fory yng Nghreigiau, Sain Ffagan, Radur a Phentre-poeth , Y Tyllgoed, Pentyrch, Felindre, Yr Eglwys Newydd, Gorllewin Y Mynydd Bychan, Trelái a Chaerau.
Gallwch wirio bin a gollwyd ar ein system adrodd newydd ynNi chasglwyd fy sbwriel / ailgylchu yr wythnos hon (cardiff.gov.uk)
Byddwch yn gallu gweld yr holl fathau o finiau/bagiau y trefnwyd eu casglu y diwrnod hwnnw, neu unrhyw rai sydd eisoes wedi'u casglu, os yw eich diwrnod casglu wedi mynd heibio.