Back
Ystyried cynlluniau i brynu hostel yn y ddinas

19/02/21

Bydd ymagwedd 'Dim Mynd yn Ôl' Cyngor Caerdydd tuag at ddarparu gwasanaethau digartrefedd yn y ddinas yn cymryd cam arall ymlaen yr wythnos nesaf os cytunir ar gynlluniau i brynu cyfleuster newydd.

Yn ei gyfarfod nesaf Ddydd Iau, 25 Chwefror, bydd y Cabinet yn ystyried cynnig i brynu hostel yr YHA ar Stryd Tyndall Ddwyreiniol, llety y mae'r Cyngor wedi bod yn ei ddefnyddio ers y Gwanwyn diwethaf pan oedd angen mannau ychwanegol i gadw cleientiaid yn ddiogel yn ystod y pandemig.

Darparodd y cyfleuster 80 o'r 182 uned ychwanegol o lety â chymorth a sefydlwyd ar draws nifer o safleoedd i fynd i'r afael â digartrefedd yn ystod yr argyfwng iechyd, ac mae ei lety o ansawdd da a'i wasanaethau cymorth ar y safle wedi chwarae rhan annatod yn sicrhau newid gwirioneddol ym mywydau pobl sy'n agored i niwed.

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas bellach yn gyson isel - mewn ffigurau sengl dros y misoedd diwethaf, ac mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn ymgysylltu â gwasanaethau cymorth sy'n newid bywydau, megis cwnsela therapiwtig, cymorth iechyd meddwl a thriniaeth camddefnyddio sylweddau.

Bydd caffael yr hostel 80 gwely yn barhaol yn sicrhau parhad llety a chymorth i bobl ddigartref sengl, ac ynghyd â darpariaeth well arall a newidiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, byddant yn cefnogi gweledigaeth newydd y Cyngor ar gyfer gwasanaethau digartrefedd ymhellach.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r cyfle i brynu hostel yr YHA, y buom yn ei defnyddio ers bron i 12 mis bellach, yn un cyffrous. Mae'r llety a'r gwasanaethau rydym wedi'u darparu yno wedi bod yn hanfodol i'r llwyddiant a gawsom yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gefnogi pobl i ddod oddi ar fywyd ar y strydoedd. 

"Rydym wedi cael cyfle arbennig i weithio gyda'r bobl agored i niwed yr oedd angen ein cefnogaeth ni arnynt dros y flwyddyn ddiwethaf ac nid ydym am golli'r momentwm hwnnw. Rydym wedi ymrwymo i 'Dim Mynd yn Ôl' ac mae prynu'r hostel yn gam pwysig ar y daith honno."

Bydd y Cabinet hefyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd model newydd yr awdurdod ar gyfer gwasanaethau digartrefedd, gan gynnwys sefydlu canolfan asesu newydd â llety brys i bobl sengl, ehangu Tîm Amlddisgyblaethol y ddinas sy'n mynd ati mewn ffordd gyfannol i fynd i'r afael â digartrefedd unigolyn, cynlluniau llety â chymorth newydd a phrosiectau digartrefedd teuluol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Rydym yn gwneud cynnydd mor dda ar bob agwedd ar y weledigaeth newydd a amlinellwyd gennym yr haf diwethaf.  Rwy'n hyderus y bydd darpariaeth newydd fel y ganolfan asesu a chanolfannau digartrefedd teuluol newydd fydd yn dod yn weithredol eleni yn ein galluogi i gynnal y llwyddiant a gawsom yn 2020 a sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i gefnogi unigolion a theuluoedd bregus sy'n profi digartrefedd."