Back
Diweddariad COVID-19: 18 Chwefror

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: Arweinydd Cyngor Caerdydd yn croesawu Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2021; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Arweinydd Cyngor Caerdydd yn croesawu Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2021

Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2021 18 - 21 Chwefror

Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, yn croesawu cychwyn Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd eleni, Gwyddoniaeth, Technoleg, Pheirianneg a Mathemateg yn cymryd dros y ddinas am bedwar diwrnod, gyda'r nod o ysbrydoli ac addysgu.

"Wrth wraidd  Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd y mae'r gred bod  gwyddoniaeth i bawb ac y gall pawb wneud gwyddoniaeth. Rydym ni yng Nghyngor Caerdydd yn cymeradwyo'r gred honno ac yn croesawu ymdrechion yr ŵyl i ddod â gwyddoniaeth i'r ddinas mewn ffordd hynod hygyrch a hwyliog.

"Mae ennyn brwdfrydedd ac ymgysylltu â phlant o'u blynyddoedd cynharaf mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg erbyn hyn yn bwysicach nag erioed a dyna pam fel Arweinydd Cyngor Caerdydd fynegi ein cefnogaeth i Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd. 

"Eleni yn gwbl amlwg mae'r Ŵyl ar-lein yn hytrach na ledled llyfrgelloedd, amgueddfeydd, caffis a strydoedd ein dinas, ond mae'n addo bod yr un mor gyffrous. Mae rhaglen ysbrydoledig o ddigwyddiadau STEM rhithwir wedi'u llunio yn wyneb heriau enfawr a ddaeth oherwydd y pandemig, ac a gaf i longyfarch y gwirfoddolwyr ymroddedig, a threfnwyr, a phartneriaid am wneud hynny'n bosibl.

"Mae'r argyfwng Covid-19 wedi dangos i ni fod sgiliau STEM yn bwysicach nawr nag erioed. Rydym wedi gweld y gymuned STEM fyd-eang o feddylwyr beirniadol ac arloeswyr yn harneisio technoleg a gwyddoniaeth i fynd i'r afael â'r materion difrifol yr ydym yn eu hwynebu. Bydd ailadeiladu ein heconomi ar ôl Covid yn gofyn am feddwl arloesol ac mae addysg STEM yn hanfodol i'n llwyddiant wrth ymladd clefydau a chreu byd gwell, diogelach a glanach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

"Mae Caerdydd wrth gwrs yn adnabyddus fel un o brif ganolfannau ymchwil gwyddoniaeth. Mae ein prifysgolion yn sefydliadau sy'n arwain y byd, ar flaen y gad o ran ymchwil ar arloesi, ac mae talent aruthrol hefyd mewn ysgolion ledled y ddinas.

"Mae Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn galluogi ein dinasyddion iau i ddysgu rhywbeth newydd gan y cyfathrebwyr gwyddoniaeth gorau yng Nghaerdydd ac mae angen i ni roi cyfle i blant o bob oed ac o bob cefndir i gyflawni eu potensial STEM ac mae Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn anelu at wneud yr union beth hwnnw, gan annog ein pobl ifanc i arbrofi gwneud camgymeriadau, i holi, i ddysgu o brofiadau ac i ddod o hyd i atebion.

"Mae rhaglen hudolus yr Ŵyl o ddigwyddiadau ar-lein yn annog chwilfrydedd ac yn gwneud dysgu'n hwyl. Trwy ddarparu cyfleoedd i'n pobl ifanc, caiff doniau eu darganfod a chanfyddir angerdd newydd, bydd ein harloeswyr, gwyddonwyr, peirianwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol yn cael eu hysbrydoli.

"Gwyddom fod dysgu gweithredol ymarferol yn allweddol i godi'r lefelau llwyddiant academaidd ein pobl ifanc, gan eu paratoi gyda'r meddylfryd cywir o dwf i addasu ac arloesi yn y byd hwn sy'n esblygu'n gyflym."

Ewch i wefan Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd:

www.cardiffsciencefestival.co.uk/cy/hafan/

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 18 Chwefror

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:118,392.

 

Grwpiau Blaenoriaeth 5-7:

65-69: 6,211

Chyflwr Iechyd Sylfaenol: 4,382

60-64: 5,137

 

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (07 Chwefror - 13 Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

17 Chwefror 2021, 09:00

 

Achosion: 371

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 101.1 (Cymru: 83.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,865

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,053.4

Cyfran bositif: 9.6% (Cymru: 8.0% cyfran bositif)