Back
Gosod system goleuadau ‘Colour Kinetics' newydd yng Nghastell Caerdydd

11/02/21

Mae system goleuadau lliwgar newydd wedi'i gosod yng Nghastell Caerdydd yn rhan o gynlluniau i wella'r strydlun, i leihau'r ynni a ddefnyddir a'r gost, ac i helpu i greu mwy o incwm.

Pwerir system goleuadau dynamig ‘Colour Kinetics' Phillips, y mae fersiynau ohoni'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i oleuo 14 pont ar draws Afon Tafwys yn Llundain yn rhan o gomisiwn celf cyhoeddus gwerth miliynau o bunnoedd, gan LEDS ecogyfeillgar ac effeithlon iawn. Maen nhw'n para am gyfnod hir a gellir eu rhaglenni a'u rheoli i greu amrywiaeth o effeithiau gweledol lliwgar.

Mae'r system newydd yn cymryd lle goleuadau halogen ynni uchel 15 oed presennol y Castell, nad ydynt wedi gweithio'n iawn ers nifer o flynyddoedd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Castell Caerdydd yw ein safle treftadaeth pwysicaf ac mae'n un o'r atyniadau sy'n denu twristiaid i'r ddinas, ond ers rhai blynyddoedd bellach, yn ystod y nos, mae wedi bod mewn tywyllwch.

"Mae'r effeithiau dramatig y gall goleuadau'r system hon eu creu yn anhygoel. Rydym am ddefnyddio'r dechnoleg arloesol hon i'n helpu i greu awyrgylch gwych, a chyffro go iawn, a fydd yn helpu i ddenu pobl yn ôl i'r ddinas unwaith y bydd y cyfyngiadau presennol wedi'u llacio ac y bydd y ddinas ar agor ar ôl Covid.

"Ond nid yw'r goleuadau'n ymwneud yn unig â gwneud i'r Castell edrych yn wych - byddan nhw hefyd yn ein helpu i ddenu mwy o gyngherddau a digwyddiadau proffil uchel - digwyddiadau sy'n cynhyrchu incwm y gellir ei ddefnyddio i ofalu am yr adeilad eiconig hwn ar ran pobl Caerdydd.

"Nid oedd yr hen system goleuadau'n ynni-effeithlon o gwbl ac roedd wedi cyrraedd diwedd ei hoes, felly bydd y system newydd hon nid yn unig yn llawer gwell ond bydd hefyd yn arbed llawer o arian gan ddefnyddio llai o ynni a mynd i lai o gostau."

Yn gyntaf caiff y system ei gosod ar wal y Castell sy'n wynebu Stryd y Castell, gan gynnwys tŵr y cloc. Mae cynlluniau'n cael eu datblygu i'w gosod hefyd ar y Gorthwr, y prif dŷ, a waliau mewnol ac allanol eraill.

Defnyddiwyd systemau goleuadau Colour Kinetics hefyd i oleuo tirnodau ledled y byd gan gynnwys the London Eye, Pont Tyne, Eglwys Gadeiriol Notre Dame ym Mharis, Lle Gwyliau Planet Hollywood a Casino yn Las Vegas, yn ogystal â chestyll Cymreig eraill gan gynnwys Castell Coch a Chastell Caerffili.

Rhoddodd Phillips ac ELS gyngor arbenigol ar sut i greu'r effaith fwyaf gyda'r goleuadau ar gyfer y prosiect. Cynhaliwyd y gwaith gosod gan Centregreat, sydd hefyd wedi gweithio ar osod seilwaith goleuadau stryd LED Caerdydd.